Byddwn yn cynnal sgwrs banel ar stondin Menter Môn (96-98) am 2yp ddydd Mawrth, ble fydd criw o bobl ifanc yn trafod y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yng Ngwynedd a Môn, ynghyd â’u profiadau o ddatblygu gyrfa a sicrhau dyfodol llwyddiannus o fewn eu cymunedau. Daw...
Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol
Mae saith teulu yn dychwelyd i’w gwreiddiau fel rhan o’r elfen Ymgartrefu o Llwyddo’n Lleol, cynllun peilot a ariennir drwy raglen ARFOR Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw helpu pobl i ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg yn rhanbarth ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) drwy ddarparu cymorth ariannol ac ymarferol. Mae’r cynllun eisoes yn trawsnewid bywydau, gan wireddu’r freuddwyd o symud adref.
Rhannu profiadau iaith a gwaith – Cysylltiadau newydd rhwng Cymru a’r Alban
Yr wythnos hon, cafodd myfyriwr o Ynysoedd y Gorllewin, yr Alban, groeso yng ngogledd Cymru ar ymweliad arbennig gyda phrosiect ARFOR Llwyddo’n Lleol. Nod y daith oedd rhoi cipolwg i Jamie Duncan ar sut mae cymunedau Cymraeg eu hiaith yn meithrin cyfleoedd lleol, gan rannu arferion da a phrofiadau gwerthfawr rhwng dwy genedl sydd â hanes a heriau tebyg.
Lleisiau Lleol – Podlediad Newydd yn Archwilio Bywyd a Chyfleoedd yn ARFOR
Bydd Lleisiau Lleol, podlediad newydd gan brosiect ARFOR Llwyddo’n Lleol yn cael ei lansio ar 4 Chwefror 2025. Wedi’i gynhyrchu fel rhan o raglen ARFOR, mae’r gyfres hon yn archwilio bywyd, gwaith a chymuned ardaloedd Arfor, gan ddathlu straeon unigolion sy’n dewis ffynnu’n lleol.
Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol
Dros y penwythnos, fe agorodd yr entrepreneur lleol Richard Holt, Ffatri Siocled newydd yn Llangefni. Dyma’r dyn y tu ôl i fentrau Mr Holt’s Chocolate, Mônuts, a Melin Llynon, ac yn ddiweddar fe gyflogodd dalent lleol i ymuno â’r busnes.
Gyrfa yn y byd ffilmio a Golygu yn #ARFOR
Dwi wedi bod yn gweithio i fforest films ers mis Mehefin ac mae wedi bod yn anhygoel profi ochr hollol wahanol o gynhyrchu a datblygu sgiliau newydd sbon ar hyd y daith!Cyn dod i fforest, roeddwn i’n gweithio i gwmni cynhyrchu teledu yn Llundain a oedd yn arbenigo...
Egni ffres yng nghlybiau rygbi Ceredigion i gadw pobl ifanc yn lleol.
Mae menter arloesol yn mynd i’r afael ag un o heriau mwyaf cefn gwlad Cymru: cadw pobl ifanc â’u gwreiddiau yn eu cymunedau. Mae Llwyddo’n Lleol 2050, sy’n rhan o raglen ARFOR, yn gweithio i fynd i’r afael â’r ecsodus o siaradwyr Cymraeg ifanc o ardaloedd gwledig trwy...
Aros yn lleol, a chreu dyfodol
Blog gan Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau Ceredigion Llwyddo’n Lleol
Ymgyrch Nadolig Llwyddo’n Lleol 🌟🎄🎅
Ydych chi wedi gweld hysbyseb Nadolig 2024 Llwyddo’n Lleol eto? Mae’r ymgyrch farchnata sy’n hybu’r neges o ddarganfod eich dyfodol y ARFOR yn rhedeg dros gyfnod y Nadolig! Gallwch weld yr hysbyseb ar ITV, S4C, cyfryngau cymdeithasol, gorsafoedd trên ar gefn bysiau,...
Llwyddo’n Lleol yn cynnig cyfle i raddedigion a myfyrwyr prifysgolion gorllewin Cymru i ennill hyd at £1,000 i ddechrau busnes.
Ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig hyfforddiant busnes i raddedigion a myfyrwyr yn rhanbarth ARFOR sy’n dymuno dechrau busnes. Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n fyfyrwyr neu’n raddedigion o Brifysgol...
Digwyddiadau rhwydweithio Llwyddo’n Lleol yn Sir Gâr a Cheredigion!
Cyfle i ddod i ‘nabod pobl newydd, uwchsgilio’n ddigidol a chynrychioli eich sefydliad neu fusnes mewn awyrgylch naturiol! 🗣️ Mae rhywbeth i bawb dros yr wythnosau nesaf, felly beth am gymryd bore i ffwrdd o’r busnes i ddysgu gan arbenigwyr yn ei maes? 📣 Neu os ydych...
Mae sioe CYMRIX yn mynd ar daith ar draws ARFOR gyda chefnogaeth Llwyddo’n Lleol
Ar y cyd gyda Chwmni Theatr Arad Goch mae Llwyddo’n Lleol wedi trefnu sioeau cymunedol ar gyfer teuluoedd siroedd ARFOR sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.
Cyfle Elfen Mentro Prifysgol Aberystwyth
Wyt ti’n fyfyriwr neu yn un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor neu Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ? Dyma gyfle arbennig i 12 o unigolion 18-35oed i gymryd rhan mewn hyfforddiant cyffrous yn Aberystwyth i sbarduno syniadau busnes a/neu mentro i...
Llwyddo’n Lleol yn cynnig profiad ym myd y cyfryngau i unigolion ifanc Ceredigion.
Yn ystod grwpiau trafod Llwyddo’n Lleol gyda phobl ifanc yng Ngheredigion, fe ddaeth i’r amlwg bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ym myd y cyfryngau yng nghefn gwlad ARFOR. Er bod llawer o ddiddordeb yn lleol, a nifer helaeth yn heidio i brifysgolion...
Hyd at £5,000 o gefnogaeth ariannol i deuluoedd sydd yn awyddus i ddychwelyd yn ôl i ranbarth ARFOR!
Mae gan Llwyddo’n Lleol 2050 cyfle ARBENNIG i deuluoedd sydd yn awyddus i ddychwelyd yn ôl i ranbarth ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) i ymgeisio am gymorth ymarferol ac ariannol i gynorthwyo gyda’r broses o symud yn ôl i’r ardal…
Cyfle olaf i ymgeisio ar gyfer yr elfen ‘Mentro’
Mae gan Llwyddo'n Lleol 2050 gyfle ARBENNIG i 30 person ymuno â rhaglen hyfforddiant ar gyfer datblygu syniad busnes. Fel rhan o'r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn 10 sesiwn wythnosol gydag arbenigwyr busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata,...
Llwyddo’n Lleol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae’r Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd. Felly dewch draw i’n gweld ar stondin 166 a 167 wythnos nesaf. Fe fydd yna ddigon o weithgareddau amrywiol ymlaen ar y stondin o ddisgo tawel, setiau acwstig i weithdai clocsio a barddoni! Mae’r tîm yn...
Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr ARFOR.
Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru yn rhedeg cynllun newydd sbon i gynnig profiad gwaith cyflogedig i saith o fyfyrwyr gyda’i Menter Iaith leol dros yr haf. Ar ôl proses ymgeisio cystadleuol, dewisiwyd saith myfyriwr Cymraeg o...
Entrepreneur ifanc i agor siop ddillad vintage yng Nghaernarfon.
Mae ‘un cam yn arwain at y llall’ medd entrepreneur ifanc o Sir Gâr sydd yn agor siop ddillad vintage ar Stryd y Plas, Caernarfon wythnos yma. Ar ôl manteisio ar y profiad o fod yn rhan o’r Elfen Mentro gyda phrosiect Llwyddo’n Lleol, mae Dylan Glyn, sydd yn 24 oed ac...
Enillydd elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol yn lansio ei fusnes.
Ar ôl derbyn cefnogaeth ariannol o £2000 a mynychu 10 wythnos o sesiynau hyfforddiant busnes drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, mae Daniel Grant yn lansio ei gwmni dillad cynaliadwy, Pen Wiwar. Fe ymgeisiodd Daniel Grant o Felinheli am gefnogaeth drwy elfen Mentro,...
Profiad cyflogedig i fyfyrwyr ARFOR! – MENTRAU IAITH
Dere i weithio gyda dy fenter iaith! Wyt ti’n chwilio am waith dros yr haf sy’n talu’n dda ac yn hyblyg? Os wyt ti’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, Aberystwyth neu’r Drindod Dewi Sant ac yn byw yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd neu Môn, llenwa’r ffurflen ymgeisio i...
Ffrwdathon
Ymunwch â'r ffrwdathon Mae'r Ffrwdathon yn cael ei gynnal nos Iau yma. Ymunwch â'r criw elfen Mentro wrth iddynt fynd yn fyw ar eu cyfrifon Instagram a Facebook. Dyma'r amserlen: 17:30 - mali gerallt lewis - @maligerallt_Flute 17:40 - cerys pollock - instagram -...
Oes gen ti awydd dechrau busnes Awyr Agored?
Oes gen ti awydd dechrau busnes Awyr Agored? Ymgeisia i fod yn rhan o'r elfen Mentro - Awyr Agored ... Mae gan ARFOR - Llwyddo'n Lleol 2050 gyfle arbennig i 24 person ymuno â rhaglen hyfforddiant ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddatblygu syniad am fusnes neu...
Cyfle i godi proffil y Gymraeg yn Sir Gâr …
Ymgeisiwch i fod yn rhan o'r sesiynau hyfforddiant wythnosol yng nghwmni arbenigwyr ac i fanteisio ar y cyfle i dderbyn ISAFSWM o £300 i ddatblygu eich syniad! Mae gan Llwyddo'n Lleol 2050 gyfle arbennig i 12 person ymuno â rhaglen hyfforddiant 6 wythnos. Bwriad y...
Cyrraedd uchafbwynt yr elfen ‘Mentro’ gyda noson ‘Taro’r Nodyn’
Ar ôl derbyn cyfres o sesiynau wythnosol gan arbenigwyr busnes fe ddaeth cyfnod y ddau gohort
cyntaf o dan yr elfen ‘Mentro’ i ben gyda noson ‘Taro’r Nodyn’.
Her ‘does dim byd da i wneud yma!’ yn #ARFOR
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnig lle i 12 person ifanc mentrus i ymuno mewnrhaglen hyfforddiant i ddatblygu syniad sy’n ymateb i’r safbwynt uchod bod yna ddiffygcyfleoedd cymdeithasol o fewn ARFOR. Beth am gychwyn busnes neu ddatblygu syniad sy’n cynnig cyfleoedd i...
Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnig rhaglen hyfforddiant newyddiaduraeth
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 wedi penderfynu ateb y galw wedi iddi ddod i’r amlwg fod yna ddiffyg cyfleoedd yn y maes newyddiadurol yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae gan y prosiect gyfle ARBENNIG i 12 person i ymuno â rhaglen hyfforddiant newyddiaduraeth 6 wythnos. Bydd yr...
Prosiect Llwyddo’n Lleol i gynnal penwythnos preswyl i deuluoedd
Mae Llwyddo'n Lleol 2050 wedi lansio cyfle arbennig i 24 person ifanc i ymuno â rhaglen hyfforddiant busnes 10 wythnos. Darllen mwy yn yr erthygl.
Croesawu tîm Llwyddo’n Lleol 2050 ARFOR 2
Helo gennym ni .... tîm Llwyddo’n Lleol 2050 😁Rydym yma i'ch cefnogi ... cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn rydym yn trefnu yn eich ardaloedd chi!Cysylltwch â ni 😊
Yn cyhoeddi’r elfen Newyddiaduraeth
Mewn ‘poll’ diweddar, roedd 64% o’n dilynwyr instagram yn credu bod mwy o gyfleoedd yn y maes newyddiaduraeth os wyt ti’n symud oddi cartref! Felly… mae Llwyddo’n Lleol eisiau gwneud rhywbeth am hyn😎 Oes gen ti ddiddordeb mewn newyddiaduraeth? 🗞️ Paid â cholli dy...
Yn cyhoeddi’r elfen Ymgartrefu
📣YN GALW AR DEULUOEDD SY’N YSU I DDOD NÔL I ARDAL ARFOR!📣 Mae Llwyddo’n Lleol yn awyddus i gefnogi teuluoedd sydd eisiau dychwelyd i Arfor drwy gynnig y cyfle iddynt fynychu penwythnos preswyl yng Ngheredigion i gael blas ar fywyd nôl yn yr ardaloedd yma yng Nghymru!...
Cyfle i fentro i fyd busnes drwy Llwyddo’n Lleol 2050.
Mae Llwyddo'n Lleol 2050 wedi lansio cyfle arbennig i 24 person ifanc i ymuno â rhaglen hyfforddiant busnes 10 wythnos. Mae’r cyfle yn rhan o elfen ‘Mentro’ Llwyddo’n Lleol 2050 ac maent yn galw ar bobl ifanc rhwng 18-35 oed o ardal ARFOR (sef siroedd Sir Gâr,...
Yn cyhoeddi’r elfen Mentro (Dyddiad Cau: 01/10/23)
WEDI CAU: 01/10/23 Mae gennym ni gyfle cyffrous ar eich cyfer .... Oes gen ti ddiddordeb derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes i ddysgu mwy am agweddau megis ... ➡ Marchnata ➡ Rheoli cyllid ➡ Denu cwsmeriaid Byddet hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1,000...