Llwyddo’n Lleol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd. Felly dewch draw i’n gweld ar stondin 166 a 167 wythnos nesaf. Fe fydd yna ddigon o weithgareddau amrywiol ymlaen ar y stondin o ddisgo tawel, setiau acwstig i weithdai clocsio a barddoni!

Mae’r tîm yn barod i’ch croesawu ac yn barod iawn i sgwrsio. Felly os oes gennych chi ymholiad neu os ydych am ddysgu mwy am y prosiect a’r hyn sydd gennym i’w gynnig – dyma’r cyfle gorau gewch chi dros yr haf i’n gweld!

Amserlen y stondin

Yn ogystal â bwrlwm y stondin, mae nifer o ddigwyddiadau eraill wedi’u trefnugan Llwyddo’n Lleol yn ystod y wythnos. Cofiwch fynychu os ydych chi o gwmpas! ….

Sgwrs Panel - Aros, Gadael neu Ddychwelyd?

Gwahoddiad i fynychu ‘Aduniad ARFOR’

Yn dilyn yr aduniad bydd sgwrs banel yn cael ei gynnal ar y stondin. Mae croeso i bawb ddod draw i drafod a ddylai bobl ifanc aros yn eu hardaloedd lleol neu symud i ffwrdd er mwyn llwyddo?

Dyma gyfle i glywed barn pobl ifanc sydd wedidewis llwybrau gwahanol iawn..

Dewch draw i holi cwestiwn a dweudeich dweud!

Dewch i rwydweithio a chyfarfod pobl a busnesau eraill sydd wedibod neu yn rhan o raglenni ARFOR. Gallwch rannu arfer dda, trafod heriau ac ymfalchïo yn y gwaith dasy’n cael ei wneud yn ARFOR.

Lleoliad y Stondin: Rhif 166 - 167