ARFOR

gan | Chw 13, 2022

Ceredigion, Gwynedd, Sir Gâr ac Ynys Môn yw’r siroedd gyda’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ond mae’r nifer wedi bod yn gostwng ers amser maith. Mae cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn nod allweddol i Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun Miliwn o Siaradwyr Cymraeg 2050.  Mae Ceredigion, Gwynedd, Sir Gâr ac Ynys Môn hefyd yn siroedd sydd gyda heriau economaidd gan eu bod yn siroedd gwledig gyda chyflogau isel.

Clustnodwyd £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfnod 2022/2023 i -2024/25 i ganiatáu’r pedair sir i gydweithio a chreu ymyraethau i sicrhau ffyniant economi Gorllewin Cymru ac i arbrofi a threialu cynlluniau i’r perwyl.