Nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw dangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol disglair ar gael yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.

Gweinyddir y rhaglen bresennol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gan Menter Môn, menter gymunedol nid-er-elw sy’n gwireddu cynlluniau amrywiol i ddatgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau.

Ariennir y cynllun gan y Gwasanaeth Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) a derbynnir cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd a Rhaglen ARFOR sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg, a thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Cliciwch yma i ddysgu am yr hyn gallwn ei gynnig i bobl ifanc a busnesau lleol:

Elfen Gyrfaol

Elfen Gyrfaol

Drwy’r elfen yma bydd Llwyddo’n Lleol 2050 yn amlygu'r cwmnïau cyffrous sy'n gweithredu mewn meysydd arloesol yng Ngwynedd a Môn trwy sicrhau lleoliadau gwaith i bobl ifanc lleol yno

Neu cliciwch yma i ddysgu mwy am ein gwaith yn ardal ARFOR dros y blynyddoedd diwethaf

Llwyddiannau blaenorol

Llwyddiannau blaenorol

Bu Llwyddo'n Lleol yn weithredol ar draws ardal ARFOR am nifer o flynyddoedd. Cliciwch yma i ddysgu am yr holl ffyrdd buom yn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd.