Elfen Gyrfaol

Cyfle cyffrous i fusnesau a phobl ifanc Gwynedd a Môn!

Mae’r Elfen Gyrfaol yn fuddsoddiad mewn talent leol; mae’n cefnogi busnesau a sefydliadau i ddatblygu’r gweithlu drwy gynnig cyfleoedd gwaith a phrofiadau gwerthfawr i bobl ifanc dan 35 oed.

Bydd unigolion hefyd yn cael cyfle i fwynhau gweithgareddau amrywiol fel rhan o’r cynllun, megis gweithdai datblygu sgiliau a gweithgareddau cymdeithasol.

Yn ogystal, bydd cefnogaeth ymarferol yn cael ei gynnig i’r busnesau er mwyn eu cefnogi i ddeall disgwyliadau pobl ifanc yn y gweithle a phontio bwlch sgiliau hanfodol.

Os hoffai eich busnes wybod mwy am y cymorth sydd ar gael, ac yn awyddus i elwa o’r cynllun hwn, darllenwch y canllawiau ac ymgeisiwch heddiw!

Neu, os wyt ti’n berson ifanc â chysylltiad i Wynedd neu Ynys Môn ac yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, darllena’r canllawiau ac ymgeisia isod.

Dyma flas o beth mae’r elfen Gyrfaol yn ei gynnig …