Bydd yr elfen yma’n cynnig cyfres o raglenni hyfforddiant dros oes y cynllun i gefnogi carfanau o unigolion sy’n rhannu’r un diddordeb, er mwyn datblygu syniad busnes neu ymateb i her.
Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.
Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1000 i ddatblygu ei syniad busnes. Mi fydd yna gyfle ychwanegol hefyd i un unigolyn o fewn pob carfan i ennill £1,000 ychwanegol mewn cystadleuaeth ar ddiwedd y rhaglen hyfforddiant.
Mi fydd yr elfen yma hefyd yn canolbwyntio ar yr heriau sy’n bodoli o fewn ardal ARFOR megis:
- Sut mae cadw pobl ifanc yn ardal ARFOR?
- Sut mae ychwanegu gwerth drwy’r Gymraeg?
- Sut gellid ychwanegu gwerth at adnoddau ac asedau lleol?
Ydych chi eisiau dechrau neu ddatblygu busnes newydd?