Mae Penwythnos Preswyl Llwyddo’n Lleol i deuluoedd sydd yn ystyried dychwelyd i ardal ARFOR. Nod y prosiect yw darparu cyfle i’r teuluoedd gael profiad o fywyd yn yr ardal ac i archwilio unrhyw heriau posib y maent yn ei wynebu wrth wneud y penderfyniad.
Cynhalwyd y penwythnos ym mis Hydref 2023 gyda dau deulu ifanc sy’n ystyried symud i dreulio penwythnos yn rhad ac am ddim ar Fferm Bargoed ger Aberaeron i brofi bywyd gwledig a’r cyfleoedd sydd gan ARFOR ei gynnig. Roedd y penwythnos yn cynnwys sesiynau hamdden, gweithgareddau i’r plant a chyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch y broses o ddychwelyd gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau. Ymysg y sesiynau roedd un dan ofal Mudiad Ysgolion Meithrin am fagu plant yn ardal ARFOR a cafwyd trafodaethau ynghylch sefydlu busnes a gweithio yng ngorllewin Cymru.
Roedd yn bleser croesawu sawl teulu i’r digwyddiad. Rydym yn awyddus i gael sgyrsiau gonest gyda theuluoedd ynglŷn â’r rhwystrau sy’n eu dal yn ôl rhag dychwelyd i ARFOR gan hefyd amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael yn ARFOR a’r gefnogaeth rydym yn gallu darparu drwy’r prosiect Llwyddo’n Lleol.
I gael blas o’r penwythnos, gwyliwch y fideo isod…