Nod Elfen Profi yw gwella sgiliau pobl ifanc er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Trwy’r cynllun rydym yn darparu cymorth i bobl ifanc i ddod i adnabod eu sgiliau a chryfderau gan gynnwys cyngor ar gyfweliadau, adnabod sgiliau byd gwaith, darganfod cyfleoedd byd gwaith a chymorth CV ac ymgeisio am swyddi. Byddwn yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd lleol gan gynnwys profiad gwaith, gwirfoddoli, prentisiaethau a swyddi.
Byddwn yn gwireddu hyn trwy fynd allan i ysgolion a cholegau addysg bellach er mwyn cyflwyno gwahanol agweddau o’r cynllun iddynt ar ffurf sgyrsiau a gweithdai wyneb i wyneb mewn ysgolion er mwyn teilwra’r gefnogaeth ar sail 1-i-1 gyda phlant a phobl ifanc.
Byddwn yn datblygu cyfres o bodlediadau a ffilmiau er mwyn annog ac arddangos y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael yn lleol.