Ffilmiau Profi

Mae elfen Profi Llwyddo’n Lleol wedi creu cyfres o ffilmiau lle rydych yn gallu darganfod mwy am swyddi diddorol, gan dderbyn cyngor ar y sgiliau sydd eu hangen a pha gamau sydd angen eu dilyn i arwain at yrfa gyffrous o fewn ardal ARFOR. Rydym yn sgwrsio â nifer o fusnesau ac unigolion sydd â swyddi cyffrous mewn amryw o fusnesau a chwmnïoedd yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.