Bydd yr elfen hon yn treulio amser dwys gyda grwpiau bach o deuluoedd a phobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn byw tu hwnt i ardal ARFOR.
Mi fyddwn yn cynnig cyfle i deuluoedd ac unigolion sy’n byw tu allan i ardal ARFOR i fod yn rhan o benwythnosau preswyl o fewn ardal ARFOR er mwyn cynnig profiadau o’r hyn sydd ar gael o fewn yr ardal ac ysgogi sgyrsiau o gwmpas y potensial o ddychwelyd i’r ardal.
Bydd y penwythnosau preswyl yn gyfle i ddeall mwy am ddyheadau’r teuluoedd a’r unigolion gan adnabod cyfranogwyr byddai’n manteisio o gefnogaeth bellach i wneud y cam i symud yn ôl i ardal ARFOR.
Ydych chi’n dyheu am ddod yn ôl i Orllewin Cymru?