Cyrraedd uchafbwynt yr elfen ‘Mentro’ gyda noson ‘Taro’r Nodyn’

Ar ôl derbyn cyfres o sesiynau wythnosol gan arbenigwyr busnes fe ddaeth cyfnod y ddau gohort cyntaf o dan yr elfen ‘Mentro’ i ben gyda noson ‘Taro’r Nodyn’.

Yn dilyn proses recriwtio agored, dewiswyd 21 o unigolion mentrus i fod yn rhan o ddau gohort cyntaf yr elfen ‘Mentro’ o brosiect Llwyddo’n Lleol. Trwy’r prosiect fe dderbyniodd yr unigolion y cyfle i fod yn rhan o raglen hyfforddiant busnes sy’n cynnig cefnogaeth arbenigol ac ariannol i bobl ifanc i yrru eu syniadau busnes yn eu blaen yn ogystal â chreu rhwydwaith o entrepreneuriaid arloesol yn ardaloedd gwledig Cymru.

Ar ôl 10 wythnos o wrando, trafod a dysgu fe ddaeth tro’r 21 unigolyn mentrus i gyflwyno eu syniadau busnes arloesol i banel o feirniaid. Y wobr? Cyfle i ennill £1,000 ychwanegol i wario ar ddatblygu eu busnes ymhellach yn 2024! Cynhaliwyd y nosweithiau ddiwedd mis Rhagfyr gydag unigolion Gwynedd a Môn yn cyflwyno yn Neuadd y Dref, Llangefni a chriw Sir Gâr a Cheredigion yn ymgynnull yng Nghanolfan Creuddyn, Llanbed. Gydag ystod eang o unigolion yn amrywio o droellwyr (DJs), arlunwyr, crefftwyr, adeiladwyr i unigolion sydd yn arbenigo mewn gwasanaethau i blant neu gyfathrebu a materion cyhoeddus, roedd yr arlwy o gyflwyniadau yn ddeinamig ac yn ddifyr.

Ar ôl cryn bwyso a mesur fe benderfynodd y panel o feirniaid mai Daniel Grant o Felinheli oedd yn dod i’r brig yn y Gogledd Orllewin gyda’i fusnes newydd, Pen Wiwar. Cwmni fydd yn creu dillad cynaliadwy wedi’u hysbrydoli gan natur a’r awyr agored yng Ngogledd Cymru.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Daniel: “Dwi ’di bod yn ddigon ffodus i ennill heddiw ar ôl bod ar y rhaglen, da ’ni wedi cael amser ‘amazing’ a dysgu rhywbeth gwahanol bob wythnos.

“Mae’r wobr yma yn meddwl lot i fi, ac yn golygu bo fi’n gallu mynd ’mlaen i gychwyn y busnes yn fuan iawn ar ôl y Nadolig a gweithio efo artistiaid lleol i greu dillad cŵl ac unigryw!”

Yn cipio’r wobr ariannol yn y De Orllewin oedd Elen Bowen o Gapel Iwan, gyda’i chwmni gemwaith Cymreig, sy’n gobeithio datblygu i gynnal gweithdai yn ardal Sir Gâr a Cheredigion.

Yn ei chyfweliad ar ôl ennill ar y noson, dywedodd Elen: “Mae’r deg wythnos diwethaf wedi bod yn ddeg wythnos anhygoel! Dwi wedi dysgu siwt gymaint, ac wedi cwrdd â ffrindiau oes dwi’n meddwl. Dydyn ni ddim ar ben ein hunain pan rydyn ni’n cychwyn neu’n trio rhedeg busnes, mae ’na ddigon o bobl brofiadol allan yna i’n helpu ni neu i gydweithio gyda ni.

“Diolch Llwyddo’n Lleol. Mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig, ac mi fydda i’n trysori’r wythnosau yma am byth!” Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonynt, a phob lwc i weddill yr unigolion a’u busnesau sy’n ffynnu ar draws cymunedau ARFOR.

Dywedodd Aled Pritchard, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol: “Mae’r cyfnod wedi hedfan heibio, ond dwi’n falch o ddweud bod yna syniadau unigryw, cyffrous a ffres wedi dod allan o’r ddau gohort cyntaf o dan yr elfen ‘Mentro’ o brosiect Llwyddo’n Lleol. Fedra’i ddim canmol digon ar bawb sydd wedi bod yn rhan o’r hyfforddiant yma am eu brwdfrydedd a’u hymroddiad, a dwi’n hynod gyffrous i weld eu syniadau nhw’n datblygu dros y flwyddyn a’r blynyddoedd nesaf!”

Mae’r ffenest ymgeisio ar gyfer y cohort nesaf o’r elfen ‘Mentro’ bellach ar agor gyda’r dyddiad cau yn nesáu ar y 21ain o Ionawr, 2024. Mae’n gyfle arbennig i 12 unigolyn rhwng 18-35 o ardal ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn) i ddatblygu eu busnes a derbyn cefnogaeth bob cam o’r ffordd.

Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais fe anogir ymgeiswyr i ddarganfod mwy am y cyfle a’r gofynion drwy ddarllen y canllawiau.