Cronfa Her ARFOR

gan | Medi 19, 2023

Hoffech chi wybod mwy am Gronfa Her ARFOR?

Uchelgais Cronfa Her rhaglen ARFOR fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau’r berthynas rhwng iaith ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy’n cynnig profi’r canlynol;

  1. Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i’r economi
  2. Mae defnyddio iaith yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
  3. Mae defnyddio iaith yn gallu helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
  4. Mae defnyddio iaith yn gallu tanio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys teimlo’n perthyn i gymuned a chael cyfle i siarad â phobl eraill sy’n siarad yr un iaith.

Mae Cronfa Her ARFOR ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu fusnesau sy’n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy’n bodoli yn eu cymuned leol.

I weld y ceisiadau llwyddiannus hyd yn hyn, cliciwch ar y botwm isod.

Mae ceisiadau ar gau i'r Gronfa ar hyn o bryd

Cronfa Her Fach ARFOR (hyd at £30,000)

Cefnogaeth a chyllid o hyd at £30,000 (TAW yn gynwysedig) i dreialu syniadau yn gyflym ac ar raddfa fach (yn dilyn yr egwyddor y gall y cynlluniau hyn arwain at geisiadau ar gyfer y Gronfa Her Fawr).

Bydd buddiolwyr y Gronfa hefyd yn cael cymorth ymarferol a hyfforddiant yn ystod y broses arloesi.

Cronfa Her Fawr ARFOR (hyd at tua £100,000)

Cymorth ariannol i sefydliadau, naill ai’n unigol neu ar y cyd, i weithredu cynlluniau sy’n ymateb i amcanion a heriau strategol ARFOR. Gallai’r cynlluniau weithredu o fewn un sir ARFOR, cyfuniad o siroedd ARFOR neu ardal ARFOR yn ei gyfanrwydd. Rhagwelir y bydd ceisiadau ar gyfer y Gronfa tua £100,000 (yn cynnwys TAW) ar gyfartaledd.

Mae ceisiadau ar gau i'r Gronfa ar hyn o bryd