Ceisiadau Llwyddiannus Y Gronfa Her

Dyma geisiadau llwyddiannus y Gronfa Her hyd yn hyn!

Yma mae astudiaethau achos a fideos diddorol yn esbonio mwy am y prosiectau arloesol sydd wedi derbyn arian gan y Gronfa Her.

Astudiaeth Achos Cymen
Astudiaeth Achos
M-SParc
Astudiaeth Achos Darogan Talent
Astudiaeth Achos Pennotec
Astudiaeth Achos
Prifysgol Bangor
Astudiaeth Achos Cwmni Bro Antur Aelhaearn
Astudiaeth Achos
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Technoleg Adnabod Lleferydd Cymraeg

Bydd y prosiect yma gan Cymen yn datblygu technoleg trawsgrifio awtomatig sy’n adnabod lleferydd Cymraeg.

Rhwydwaith Cymry Llundain

Cynllun yw hwn sy’n rhoi cyfle i M-SParc a’r rhanbarth amlygu y cyfleoedd sydd ar gael ar draws Ardal ARFOR i gymuned Cymry Llundain.

Denu Graddedigion i Ardal ARFOR

Bydd Darogan Talent yn ceisio denu myfyrwyr a graddedigion diweddar sy’n astudio y tu allan i Gymru yn ôl i ranbarth ARFOR drwy roi gwybod iddynt am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yno.

Heriau Recriwtio Staff Dwyieithog 

Bydd Dr Cynog Prys a’r tîm yn datblygu a cyhoeddi 2 becyn gwaith arloesol i fynd i’r afael â’r her o recriwtio staff dwyieithog yn ardal ARFOR.

Diweddaru a Moderneiddio Tai

Mae Cwmni Bro Antur Aelhaearn 1974 wedi prynu 2 dÅ· yn Llanaelhaearn. Ar ôl eu diweddaru a’u moderneiddio, byddent ar gael ar rent i denantiaid lleol Cymraeg. 

Tendra – Adeiladu’r Dyfodol, Un Tendr ar y Tro

Mae Adra yn datblygu rhaglen o hyfforddiant i uwchsgilio BBaChau / contractwyr lleol ym maes caffael i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gyflwyno dyfynbrisiau tendro dichonadwy ar gyfer gwaith datgarboneiddio / ôl-osod. 

Y Wal Goch yn y Gymuned

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydweithio â chlybiau pêl-droed lleol ym mhob un o siroedd ARFOR i greu hybiau – gan ddefnyddio pŵer pêl-droed i uno pobl, busnesau a’r celfyddydau.

ARFer

Nod ARFer ydy cefnogi unigolion a grwpiau i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. Mae’r
fethodoleg wedi selio ar wyddor newid ymddygiad gan ofyn i unigolion a thimau ymrwymo i ddefnyddio Cymraeg fel iaith ddiofyn mewn cyd-destunau
penodol. 

Mentergarwch chwaraeon a hamdden

Bydd y prosiect hwn yn ysgogi mentergarwch Cymry Cymraeg yn y maes hamdden a chwaraeon drwy annog pobl ifanc i gymhwyso yn ei meysydd hamdden o ddiddordeb er mwyn cael gwaith achlysurol yn lleol, ac yna eu hannog i gynnal clybiau a sesiynau hamdden / chwaraeon / sefydlu busnesau hamdden yn Gymraeg yn lleol.

Datblygu Cadernid Iaith i’r Maes Gofal Plant

Nod y prosiect hwn yw datblygu a pheilota hyfforddiant
Cadernid Iaith ar gyfer y maes
gofal babanod a phlant ifanc. Ein gweledigaeth yw creu hyfforddiant Cadernid Iaith bydd yn sicrhau bod ymarferwyr gofal plant yn gweithredu Cadernid Iaith yn eu gwaith ac o ganlyniad bydd siarad, chwarae a chyfathrebu drwy’r Gymraeg yn beth naturiol i fabanod a phlant ifanc cyn iddynt gyrraedd oed ysgol.

Hyrwyddo Clybiau a Busnesau Lleol

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau i wella llywodraethiant a chydweithio eu clybiau, ond ar hyn o bryd, dim ond drwy’r Saesneg. Amcan y peilot yma ydi cynnig y gwasanaeth i’r clybiau a’u cymunedau drwy’r Gymraeg.Â