Mae Llwyddo’n Lleol 2050 wedi penderfynu ateb y galw wedi iddi ddod i’r amlwg fod yna ddiffyg cyfleoedd yn y maes newyddiadurol yn ardaloedd gwledig Cymru.

Mae gan y prosiect gyfle ARBENNIG i 12 person i ymuno â rhaglen hyfforddiant newyddiaduraeth 6 wythnos. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr yn y maes ar agweddau gwahanol o fewn y maes newyddiaduraeth gan gynnwys sut i strwythuro stori dda, creu deunydd aml-gyfrwng, a defnyddio Bro360 yn ei hardal leol.  

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, fe fydd yna gyfle iddynt fod yn rhan o rwydwaith o newyddiadurwyr uchelgeisiol a chael profiad gwerthfawr i’w gynnwys ar ei CV.

Mae’r cyfle yn rhan o elfen ‘Mentro’ y prosiect, ac wedi’u sbarduno ar ôl clywed bod 62% o bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn credu bod mwy o gyfleoedd yn y maes newyddiadurol os wyt ti’n symud i ffwrdd o adref.

Dywedodd Aled Pritchard Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol: “ Rydym yn galw ar bobl ifanc rhwng 16-35 oed o ardal ARFOR (sef siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn), sydd â diddordeb datblygu sgiliau newyddiadurol a’i defnyddio ar lawr gwlad i gysylltu â ni. 

“Y gobaith drwy’r rhaglen yma yw ysbrydoli bobl ifanc ARFOR fod modd Llwyddo’n Lleol a thanio eu gyrfaoedd yn y byd newyddiadurol.”  

Ychwanegodd Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg: “Os oes un swydd sydd ddim yn ddibynnol ar symud bant, swydd gohebydd yw honno. Mae adrodd ar straeon sy’n bwysig i bobol a’n cymunedau yn bwysig ym mhob cwr o Gymru, ac mae gohebwyr da yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas. 

“Mae bron pawb yn gallu bod yn ohebydd, ac mae’r cwrs yma’n gyfle i fagu hyder a mireinio sgiliau amrywiol. Os ydych chi’n meddwl bod gennych drwyn da am stori a sgiliau cyfathrebu da, ewch amdani!”

Dyma’r ail ffenest ymgeisio o dan yr elfen ‘Mentro’ sy’n canolbwyntio ar fireinio sgiliau newyddiaduraeth yn unig, ac mi fydd y ffenest yn agored rhwng y 4ydd  o Hydref hyd y 23ain o Hydref, 2023. 

Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais fe anogir ymgeiswyr i ddarganfod fwy am y cyfle a’r gofynion drwy ddarllen y canllawiau.