Cyfle olaf i ymgeisio ar gyfer yr elfen ‘Mentro’

Mae gan Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle ARBENNIG i 30 person ymuno â rhaglen hyfforddiant ar gyfer datblygu syniad busnes.

Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn 10 sesiwn wythnosol gydag arbenigwyr busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denucwsmeriaid.

Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol, bydd cyfranogwyr y rhaglen hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1,000 tuag at ddatblygu eu syniad busnes.

Mae’r rhaglen hyfforddiant hon ar agor i geisiadau o bob ardal yn rhanbarth ARFOR, sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn. Cynhelir y rhaglen drwy gyfuniad o sesiynau rhithiol a sesiynau wyneb i wyneb.

Ddim yn siwr os yw’r cyfle yma yn addas i chi a’ch syniad busnes?

Erbyn hyn, mae 88 o unigolion wedi bod yn rhan o’r elfen a dros £100,000 wedi’i fuddsoddi er mwyn gwella sgiliau a hyder entrepreneuriaid ifanc, ARFOR. Mae’r rhaglen hyfforddiant yn gyfle i roi hwb i’ch busnes, cyfarfod pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chi ac ymuno â rhwydwaith gefnogol Llwyddo’n Lleol. 

Gwrandewch ar farn rhai o’r unigolion oedd yn eich esgidiau chi adeg yma blwyddyn ddiwethaf…