Her ‘does dim byd da i wneud yma!’ yn #ARFOR

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnig lle i 12 person ifanc mentrus i ymuno mewn
rhaglen hyfforddiant i ddatblygu syniad sy’n ymateb i’r safbwynt uchod bod yna ddiffyg
cyfleoedd cymdeithasol o fewn ARFOR.


Beth am gychwyn busnes neu ddatblygu syniad sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc i
gymdeithasu – gweithgareddau cymdeithasol, adloniant, chwaraeon neu ddigwyddiad
penodol?


Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn chwe sesiwn gydag
arbenigwyr perthnasol, yn canolbwyntio ar agweddau amrywiol megis marchnata,
rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.


Mi fydd y sesiynau dwy awr yn cael ei gynnal yn wythnosol o’r 16eg o Ionawr ymlaen.
Mi fydd y rhaglen yn cynnwys cyfuniad o sesiynau rhithiol a sesiynau wyneb i wyneb.
Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth
ariannol i ddatblygu’r syniad ymhellach.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

I ymgeisio cliciwch yma.

Dyddiad Cau: 07/01/24