Oes gen ti awydd dechrau busnes Awyr Agored?

Oes gen ti awydd dechrau busnes Awyr Agored?
Ymgeisia i fod yn rhan o’r elfen Mentro – Awyr Agored …
Mae gan ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle arbennig i 24 person ymuno â rhaglen hyfforddiant ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddatblygu syniad am fusnes neu weithgaredd awyr agored!
Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn pedair sesiwn hyfforddiant wythnosol yng nghwmni arbenigwyr yn y maes. Bydd sesiynau wythnosol yn canolbwyntio ar themâu megis marchnata, rheoli cyllid a sut mae denu cwsmeriaid.
Bydd diwrnod cyffrous o antur hefyd yn gael ei drefnu fel cyfle i rwydweithio a mwynhau bob dim sydd gan ARFOR i gynnig yn yr awyr agored!
Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn derbyn cefnogaeth ariannol o £1000 i helpu symud eu syniad yn ei blaen.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Ymgeisiwch yma.