Profiad Gabrielle Raw-Rees o weithio gyda fforest films o dan nawdd Llwyddo'n Lleol

Dwi wedi bod yn gweithio i fforest films ers mis Mehefin ac mae wedi bod yn anhygoel profi ochr hollol wahanol o gynhyrchu a datblygu sgiliau newydd sbon ar hyd y daith!

Cyn dod i fforest, roeddwn i’n gweithio i gwmni cynhyrchu teledu yn Llundain a oedd yn arbenigo mewn adloniant ffeithiol, yn bennaf ar gyfer cynulleidfa yn UDA. Dechreuais fel ysgrifennydd cynhyrchu, swydd sy’n cynnwys llawer o amserlennu, trefnu, cyllidebu, a chydlynu. Roeddwn i’n gyfrifol am drefniadau teithio’r cyfranwyr a’r criw, ac yn prosesu anfonebau, dod o hyd i bropiau, a gwneud unrhyw dasgau rhyfedd eraill yr oedd eu hangen!

Yna, fe wnes i symud i fod yn ymchwilydd a oedd yn cynnwys llawer o ymchwilio, fel y gallwch chi ddyfalu. Roedd y rhaglen ddogfen yn ymwneud â siarcod, felly fe wnes i ddod yn dipyn o arbenigwr ar siarcod a dwi’n dal i ddiflasu pobl gyda ffeithiau am y pysgodyn hwn pan alla i. Fe wnes i helpu i gydlynu pythefnos dwys o ffilmio yn New Orleans cyn mynd ati i chwilio am lwyth o ddeunydd ffilm o’r archif a oedd yn cynnwys siarcod. Roedd y clipiau hyn wedi’u saethu gan bysgotwyr a morwyr yn y rhan honno o’r byd ac yn ategu ein deunydd ffilm ein hunain. Fe wnes i hefyd helpu i sicrhau bod y sgript derfynol yn ffeithiol gywir ac yn pasio holl wiriadau’r rhwydwaith.

Mae fy swydd gyda fforest yn ymwneud â datblygu syniadau newydd, sy’n gyffrous iawn yn fy marn i. Mae Rhys yn barod i dderbyn straeon ar bron unrhyw bwnc dan haul, felly dwi’n gallu bwrw ati gyda fy ymchwil â meddwl agored. A dwi wedi cael fy syfrdanu gan y straeon rhyfeddol, ysbrydoledig a hollol ryfedd sydd allan yna yn aros i gael eu hadrodd yn ein hardal leol.

Rhan o’r swydd yw dod o hyd i ffynonellau posib o gyllid i wneud ffilmiau byrion sy’n adrodd y straeon hyn. Mae gan bob cronfa set wahanol o ofynion ac weithiau’n rhoi brîff neu themâu y mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu bodloni. Mae’n hynod bwysig rhoi digon o amser i ddatblygu syniadau; mae rhai diwrnodau yn ddiwrnodau o feddwl wrth i ni geisio dod o hyd i’r ffordd orau o ymdrin â phwnc neu ei gyflwyno. Mae Rhys yn annog trafodaeth a chydweithio, felly rydyn ni wastad yn cyfathrebu â’n gilydd am feddyliau neu syniadau newydd, dim ots pa mor randym ydyn nhw.

Bu dau ohonon ni yn fforest dan nawdd Llwyddo’n Lleol. Roedd Lily yn gweithio dridiau’r wythnos tra oeddwn i’n gweithio ddeuddydd. I ddechrau, roedd ein diwrnodau ni’n wahanol ond fe wnaethon ni eu haddasu fel eu bod yn gorgyffwrdd am ei bod hi mor ddefnyddiol gallu gweithio gyda’n gilydd ar brosiectau a hel syniadau gyda’n gilydd.

Mae’r swyddfa yn Aberystwyth yn agos iawn at y môr a byddai Lily a minnau’n mynd am dro yn ystod ein hegwyl ginio. Dwi’n meddwl y gwnaeth Lily hyd yn oed nofio yn y môr ambell fore cyn dod i’r gwaith! Roedd yn lleoliad mor hyfryd.

Dwi wedi dysgu cymaint am ddatblygiad ers dechrau’r swydd. Mae syniadau’n dod yn haws, a dwi’n gallu ymchwilio ac ysgrifennu pethau yn llawer cynt. Dwi wedi cael tipyn o ymarfer gyda cheisiadau cyllid a theilwra cynigion i wahanol gynulleidfaoedd. Dwi’n edrych ymlaen at barhau i wella hyn yn 2025.

Mae gennym lawer o syniadau yr hoffen ni eu datblygu ymhellach eleni a’u cynnig i wahanol allfeydd. Byddai’n wych cael comisiwn a gweld un o’r syniadau hynny’n dod yn fyw.