Cyfle i godi proffil y Gymraeg yn Sir Gâr …

Ymgeisiwch i fod yn rhan o’r sesiynau hyfforddiant wythnosol yng nghwmni arbenigwyr ac i fanteisio ar y cyfle i dderbyn ISAFSWM o £300 i ddatblygu eich syniad!
 
Mae gan Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle arbennig i 12 person ymuno â rhaglen hyfforddiant 6 wythnos. Bwriad y rhaglen fydd hybu’r Gymraeg yn Sir Gâr, gan gefnogi syniadau
all wneud yr iaith yn fwy clywadwy a/neu weladwy yn yr ardal.
 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol yng nghwmni arbenigwyr yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o fewn ymateb i’r her o godi proffil
y Gymraeg yn yr ardal, gan gynnwys sesiynau ar ddefnyddio data, cyllido’r fenter, a sut i farchnata’n effeithiol.
 
 
Mae’r rhaglen hon yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl ifanc eraill sy’n ymddiddori yn yr iaith, ac yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, ar ddiwedd y rhaglen, bydd cyfle i’r
ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn cymorth ariannol gan ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 er mwyn datblygu eu syniad.
 
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Ymgeisiwch yma.