Cefnogaeth i Ddychwelyd i ARFOR

Yn ôl yn mis Hydref roedd Llwyddo’n Lleol yn cynnig cefnogaeth o hyd at £5,000 i deuluoedd ddychwelyd i ranbarth ARFOR, drwy’r Elfen Ymgartrefu.

Rydym yn cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gynorthwyo rhieni / teuluoedd sy’n ystyried dychwelyd i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd neu Ynys Môn. Mae’r cymorth hwn yn gallu cynnwys help i dalu am gostau cludiant, costau rhent neu forgais, costau gwarchod plant, neu wersi Cymraeg hyd yn oed.

Dyma’r teuluoedd / unigolion sydd wedi derbyn cymorth Llwyddo’n Lleol i symud adref i ARFOR!