Blog Dr Glyn Morris – elfen Ymgartrefu

Dychwelyd adref

‘Croeso i Gymru’. Dwi’n gweld yr arwydd o’r diwedd. Pum awr o yrru i’r ffin, a thair awr arall i Sir Gâr. A hyn oll er mwyn symud ein cartref o’r Alban yn ôl i Gymru. Roeddwn i wedi blino’n lân. Er mor flinedig a phryderus y teimlwn, wnes i erioed amau’r penderfyniad i symud adref – dyma’r peth cywir i’w wneud ar gyfer ein priodas, ein plant, a’n teulu. Gadewch i mi fynd â chi ar hyd ein taith o’r cychwyn i’r diwedd, a thrwy’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau a’n harweiniodd ni at y pwynt hwn yn ein bywydau.

Gorffen ein graddau PhD

Fe wnes i gwrdd â Sophie wrth i’r ddau ohonon ni wneud ein graddau PhD yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd. Roeddwn i’n ymchwilio i ddiabetes, a Sophie i ganser. Aeth yr her academaidd anoddaf yn ein bywydau yn anoddach byth pan gollais i fy mam yn dilyn brwydr fer a sydyn yn erbyn canser. Fe gymerais i amser i ffwrdd o’m PhD i dreulio rhai eiliadau gwerthfawr gyda Mam, ond ar y pryd, wnes i ddim sylwi bod fy nghyllid ar fin dod i ben. Pan ddychwelais i’r labordy PhD, dywedodd fy nghyfarwyddwr wrtha i fod y cyllid wedi dod i ben ac na allen nhw fy nhalu mwyach. Heb allu talu’r rhent, dechreuais chwilio am swydd. Sophie oedd y cyntaf i sicrhau swydd ym Mhrifysgol Caergrawnt, felly i ffwrdd â ni ar ein hantur gyntaf – y tro cyntaf i ni fyw y tu allan i Gymru.

Costau Byw

Roedd y ddau ohonon ni’n ddoctoriaid ac wedi sicrhau swyddi â chyflogau da yng Nghaergrawnt. Doedden ni heb ddod o hyd i le i’w rentu eto, felly roedden ni’n byw yn ein fan oren, y “Wotsit”. Ym mis Ionawr, gyda’r gwresogydd ymlaen a’r eira’n pentyrru uwch ein pennau ar do’r fan, fe gawson ni rai nosweithiau clyd a hyfryd, ond roedden ni’n gwybod nad oedd hyn yn ateb hirdymor ac roedd angen i ni ddod o hyd i rywle i’w rentu.

Ar ôl oriau o chwilio, fe ddaethon ni o hyd i fwthyn fferm hardd ar gyrion Caergrawnt yn ardal Coton. Hwn hefyd oedd ein profiad cyntaf o rentu eiddo preifat – ac o agweddau landlordiaid preifat tuag at eu heiddo! Gan gostio tua £1000 y mis, doedd dim gwres canolog gan yr eiddo, a dim ond ffenestri un haen oedd yno. Dyma oedd blwyddyn storm eira’r ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ – fe wnaeth y bàth a’r toiled rewi, roedd rhew ar ochr fewnol y ffenestri, ac roedd cynnau tân yn deffro’r larwm carbon monocsid!

Sylweddoli beth sy’n bwysig

Fe fuon ni yn ardal Cambridge am naw mis! Ar ôl cael ein llethu gan gostau byw, y tagfeydd traffig, ac ysbryd llai croesawus y bobl leol o’i gymharu â’r hyn roedden ni’n gyfarwydd ag ef yng Nghymru, fe benderfynon ni fynd i deithio o amgylch Asia a Seland Newydd. Yn rhyfedd iawn, fe lwyddon ni arbed mwy o arian mewn mis wrth aros mewn gwestai pum seren yn Asia nag yr oedden ni wedi gallu ei wneud yn ystod ein naw mis yng Nghaergrawnt! Fe gawson ni hefyd amser i ystyried beth oedd yn bwysig i ni mewn gwirionedd. Fe benderfynon ni ein bod ni eisiau swyddi rhan-amser, oedd yn talu digon i’n cynnal ni a theulu, o bosib, a byw yng nghefn gwlad. Felly, dyna beth ddechreuon ni ei wneud.

Yr Alban yn galw

Ar ôl gwneud cannoedd o geisiadau a chyfweliadau am swyddi er mwyn ceisio aros yn Sir Gaerfyrddin, fe fues i’n pendroni am sbel ond, yn y diwedd, fe lwyddais i sicrhau swydd mewn prifysgol y tu allan i Gaeredin oedd yn ticio pob bocs. Yn fuan wedyn, fe lwyddodd Sophie hefyd i sicrhau’r swydd ddelfrydol. Roedden ni’n gallu gweithio’n rhan-amser, rhannu gofal plant, fforddio gwyliau, ac fe lwyddon ni hyd yn oed i brynu ein tŷ cyntaf. Am wahaniaeth ar ôl newid gwlad. Roedd pobl yn meddwl ein bod ni’n lwcus, ond roedden ni wedi gweithio’n galed i wireddu’r freuddwyd hon. Ond er hyn oll, y tristwch mwyaf oedd ein bod ni’n dal i fod yn anhapus. Roedden ni’n hiraethu am adref!

Sut ddaethon ni adref

Wrth edrych yn ôl ar 2024, mae’n rhaid bod y bydysawd wedi ceisio dweud rhywbeth wrthon ni. Collodd Sophie ei nain o Aberhonddu; cafodd ei thad ddiagnosis o ganser ysgerbydol prin; a gwaethygodd clefyd Alzheimer fy nain a bu’n rhaid iddi symud i gartref gofal yn Sir Gaerfyrddin. Roedd Sophie’n teimlo’r awydd i fynd adref yn gryf er mwyn bod yn agos at deulu a rhoi cefnogaeth gorfforol ac emosiynol iddyn nhw. Ond roedd byw yn yr Alban yn golygu y byddai taith adref yn cymryd diwrnod cyfan o deithio gyda dau blentyn ifanc a gwerth £150, o leiaf, yn y tanc, felly doedd picio adref ddim yn opsiwn.

Roedden ni’n gwybod y byddai symud adref yn golygu gorfod rhoi’r gorau i’n swyddi rhan-amser yn yr Alban oedd yn ein cynnal ni fel teulu, a rhoi ein ffydd yn llwyr yn y busnes roedden ni wedi bod yn ei ddatblygu dros y tair blynedd diwethaf. Roedd pryder a straen yn her ddyddiol; doedden ni wir ddim yn credu ei bod hi’n bosib yn ariannol i ni ddychwelyd. Ond er hynny, fe ddyfalbarhaodd Sophie.

Ymgais rhif 1

Fe wnaethon ni roi ein tŷ yn yr Alban ar werth, a thrwy lwc, fe gafodd ei werthu’n gyflym, felly roedd bellach gennym rywfaint o gyfalaf i fuddsoddi mewn cartref newydd yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod yr haf, fe wnaethon ni deithio i Sir Gaerfyrddin i chwilio am dŷ, ac am deithiau galarus! Fe ymwelon ni â sawl tŷ ond roedd eu prisiau y tu hwnt i’n cyrraedd. COVID a phroblem yr ail gartrefi oedd yn gyrru’r prisiau uchel hyn. O’r holl dai y gwnaethon ni ymweld â nhw, roedd 90% ohonyn nhw’n eiddo i bobl o Loegr oedd wedi’u prynu yn 2019 ac yn ceisio gwneud elw. Yr hyn oedd yn destun tristwch nid yn unig i ni, ond hefyd i’r bobl leol, oedd ein bod ni’n cael ein cau allan gan y prisiau uchel hyn.

Fe wnaethon ni ddod o hyd i hen ffermdy, ac er nad oedd yn addas i fyw ynddo, roedd ei bris o fewn ein cyrraedd, felly fe gyflwynon ni gynnig ac fe gafodd ei dderbyn! Roedden ni mor hapus o wybod ein bod ni, o’r diwedd, yn symud adref. Roedd yn deimlad anhygoel! Ond wnaeth y teimlad hwnnw ddim para’n hir. Fe wnaeth archwiliad o’r eiddo roi’r ddedfryd o farwolaeth iddo! Roedd y gwerthwr yn amharod i newid y pris, a golygai hynny y gallen ni fod yn berchen ar blot gwerth £250,000 heb unrhyw gyfalaf i adeiladu tŷ newydd. Doedd hyn ddim yn ddelfrydol i deulu ifanc, felly bu’n rhaid i ni dynnu’n ôl o’r pryniant.

Llwyddo’n Lleol

Fe anfonodd fy nhad erthygl gan y BBC ata i oedd yn sôn am raglen Llwyddo’n Lleol. Yna, fe wnaethon ni ymgeisio ac mae’r gweddill yn hen hanes. Diolch i’r cymorth ariannol a gawson ni, roedden ni’n gallu cymryd y risg a symud adref. Y risg fwyaf, wrth gwrs, oedd colli ein swyddi a gorfod dibynnu’n llwyr ar y busnes. Mae hyn yn dal i fod yn her, ond mae bod yn agos at deulu yn amhrisiadwy ac yn werth y risg. Rydyn ni wir yn ddiolchgar i raglen Llwyddo’n Lleol am ein cefnogi’n ariannol, a gwneud i ni deimlo bod y gymuned ehangach eisiau i ni ddychwelyd adref. Diolch!