Arloesi Mewn Amaeth
Mae prosiect Llwyddo’n Lleol yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc (16-35) yng Ngheredigion i gael blas ar waith y byd cyfryngau o fewn y sector amaeth.  Mae’r cynnig hwn yn cynnwys gweithdai ffilmio, cyflwyno, sgriptio, cyfarwyddo a mwy gyda Meinir a Gary Howells a’r tîm . Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar y 14eg a 15fed o Fedi, rhwng 9yb a 5yp.
Mi fydd angen i chi ymrwymo i fynychu pob sesiwn ar y ddau ddiwrnod. Fel cydnabyddiaeth o’ch ymrwymiad amser mi fyddwch yn derbyn £250. Ariannir y cyfle drwy gynllun ARFOR.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau Llwyddo’n Lleol yng Ngheredigion drwy e-bostio alaw.rees@mentera.cymru neu ffonio 07956 194840.
