Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru yn
rhedeg cynllun newydd sbon i gynnig profiad gwaith cyflogedig i saith o fyfyrwyr
gyda’i Menter Iaith leol dros yr haf.
Ar ôl proses ymgeisio cystadleuol, dewisiwyd saith myfyriwr Cymraeg o Sir Gâr,
Ceredigion, Gwynedd a Môn sy’n astudio pynciau amrywiol ym Mhrifysgolion
Aberystwyth a Bangor i gymryd rhan yn y cyfle gwerthfawr.
Fe fyddant yn treulio’r cyfnod yn ystod yr haf yn gweithio gyda Mentrau Iaith
Gorllewin Sir Gâr, Gwendraeth Elli, Dinefwr, Cered, Gwynedd a Môngan ddod â
syniadau am brosiectau o’u cyrsiau gradd amrywiol i’w gweithredu yn y Mentrau
Iaith.
Dywedodd Jade Owen, Rheolwr Prosiect Llwyddo’n Lleol: “Mae’r profiad hwn yn
gyfle gwych i’r myfyrwyr ehangu eu sgiliau yn y gweithle ac ennyn profiad mewn
maes sydd o ddiddordeb iddynt, a hynny o fewn eu hardaloedd lleol.”
Ychwanegodd Catrin Jones o Fenter Iaith MĂ´n:
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw i gael eu cyfraniadau i weithgarwch y Mentrau.
“Rydym yn cynnal gwyliau cerddorol, clybiau gwyliau, gweithdai a sesiynau sgwrsio
yn ystod yr haf, ac fe fydd y criw yn dod ag egni a syniadau newydd i’r gweithgarwch
yma.
Mae’r criw fu’n llwyddiannus yn bobl ifanc deallus a brwd ac fe rydym yn ffodus iawn
o gael eu hamser dros yr haf.”
Mae’r cynllun yn ymdrech gan Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru i gynyddu
ymwybyddiaeth ymysg bobl ifanc o’r maes hyrwyddo iaith fel gyrfa posibl, ac
ysbrydoli graddedigion y dyfodol bod modd ffynnu mewn gweithle lleol, drwy wneud
gwahaniaeth ymarferol yn eu cymunedau brodorol.
Dywedodd Gwenno Roberts, â fydd yn ymuno â thim Menter Gorllewin Sir Gâr dros
yr haf: “Nid yn aml mae’n bosib i fod yn rhan o ymchwilio a threfnu digwyddiadau dwi
wedi bod am eu gweld yn fy ardal leol i, ac felly dwi wedi bod yn ffodus iawn i
dderbyn cyfle fel hyn gan Llwyddo’n Lleol a Mentrau Iaith Cymru ar fy stepen nrws i.
“Mae’r iaith Gymraeg a’r gymuned yn bwysig iawn i mi ac felly edrychaf ymlaen at
ddechrau’r swydd a dysgu mwy gyda chymorth staff Menter Gorllewin Sir Gâr.
“Fel myfyrwraig bresennol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gobeithiaf y bydd y cyfle yma
yn fuddiol i mi wrth i mi ddatblygu fy sgiliau, ymgyfarwyddo â’r byd gwaith ac agor fy
llygaid i yrfa posib sydd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Fel rhan o’r profiad, bydd y saith unigolyn llwyddiannus yn cyfrannu at ymgyrch
Llwyddo’n Lleol sy’n ceisio herio’r ystrydeb nad oes modd cael bywyd gyrfaol a
chymdeithasol llewyrchus o fewnardaloedd arfordirol Cymru.
Dilynwch eu siwrnai dros yr haf ar gyfrifon cymdeithasol Llwyddo’n Lleol neu eich Menter Iaith leol.
I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i:
llwyddonlleol2050.cymru