Dewch i sgwrsio gyda ni am y cyfleoedd sydd ar gael yn ARFOR a rhannu eich barn am yr ardal! Mae llu o weithgareddau wedi’u trefnu ar eich cyfer drwy gydol yr wythnos, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi gyd!
Mae rhywbeth at ddant pawb ar y stondin, ac mae’n bleser cael cefnogi nifer o lawryddion sydd wedi bod yn rhan o elfennau Llwyddo’n Lleol. O sesiynau hwyliog i blant, i setiau acwstig ymlaciol i gystadlaethau mentrus – mae hi am fod yn dipyn o wythnos!
Dewch i ddweud helo ….
Bydd amserlen dyddiol yn cael ei gyhoeddi ar ein cyfrif Facebook a Instagram yn ddyddiol yn ystod wythnos yr Eisteddfod …
Dilynwch ni er mwyn cael diweddariadau!
Ddim yn dod i’r ‘Steddfod? Peidiwch â phoeni, mi fydd Llwyddo’n Lleol yn Tafwyl ac yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni hefyd!