Elfen Gyrfaol

Drwy’r elfen yma rydym yn amlygu’r cwmnïau cyffrous sydd yn gweithredu yn ardal ARFOR. Rydym yn helpu unigolion i adnabod cyfleoedd gwaith ac yn rhoi cymorth i fusnesau er mwyn cynnig cyflogaeth i bobl ifanc lleol.

Elfen Ymgartrefu

Mae’r elfen yma yn canolbwyntio ar ddenu teuluoedd yn ôl i ardal ARFOR. Rydym yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd yn bwriadu symud adref i Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Ynys Môn.

Elfen Profi

Trwy’r elfen yma rydym yn darparu cymorth i bobl ifanc er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau byd gwaith.

Elfen Mentro

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes sydd yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.

Y Tîm

Mae’r tîm yn gweithredu ar hyd ardal ARFOR. Mae yna swyddog i bob sir, swyddog sydd yn gyfrifol am weithredu’r elfen Mentro a Swyddogion Marchnata sydd yn gyfrifol am hyrwyddo’r prosiect yn ei gyfanrwydd.

Mae ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 yma i ddangos i chi bod yna gyfleoedd cyffrous a dyfodol disglair ar gael yn ardaloedd gorllewinol Cymru.

Mae ARFOR yn rhaglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.

Elfen Gyrfaol

Elfen Gyrfaol

Drwy’r elfen yma bydd Llwyddo’n Lleol 2050 yn amlygu'r cwmnïau cyffrous sydd yn gweithredu mewn meysydd arloesol yng Ngorllewin Cymru gan ddefnyddio enghreifftiau o bobl sy’n gweithio yn y meysydd yma.

Elfen Mentro

Elfen Mentro

Fel rhan o'r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.

Elfen Ymgartrefu

Elfen Ymgartrefu

Mi fyddwn yn cynnig cyfle i deuluoedd ac unigolion sy’n byw tu allan i ardal ARFOR i fod yn rhan o benwythnosau preswyl o fewn ardal ARFOR er mwyn cynnig profiadau o’r hyn sydd ar gael o fewn yr ardal ac ysgogi sgyrsiau o gwmpas y potensial o ddychwelyd i’r ardal.

Elfen Profi

Elfen Profi

Trwy’r cynllun rydym yn draparu cymorth i bobl ifanc i ddod i adnabod eu sgiliau a'u chryfderau.