Profiad Morgan Brewer gyda Charles Gray Engineering

Llwyddo’n Lleol: Cadw Talent Ifanc Yn Eu Milltir Sgwâr

Mewn gweithdy bychan yn Llanelli, mae pethau mawr yn digwydd. Mae Morgan Brewer, prentis ifanc llawn uchelgais, yn brawf byw o bwysigrwydd buddsoddiad lleol a’r rôl hanfodol elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol yn ei yrfa.

Yn 20 oed, mae Morgan wedi dod o hyd i’w le yn Charles Gray Engineering, cwmni sy’n tyfu ac yn edrych tua’r dyfodol. I Morgan ac i’r cwmni, mae’r cyfle i gydweithio drwy Llwyddo’n Lleol wedi bod yn drawsnewidiol.

Mae Morgan wastad wedi teimlo angerdd am waith ymarferol. “Dw i wastad wedi mwynhau gweithio gyda pheiriannau a chreu pethau,” eglura. “Mae’r brentisiaeth hon wedi rhoi’r cyfle i fi ddysgu sgiliau bob dydd a gweithio tuag at ddyfodol rwy’n edrych ymlaen ato.”

I Neil Charles a Chris Gray, sylfaenwyr Charles Gray Engineering, mae Morgan wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i’w tîm. “Mae’n glod i’w hun ac i’r coleg o ble ddaeth e,” meddai Neil. “Mae ei frwdfrydedd a’i waith caled wedi bod o fudd i’r cwmni, ond hefyd mae’n dangos pam bod gwerth buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf.”

Ond nid yw cyfleoedd fel hyn yn digwydd ar hap.

Mae elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol yn bodoli i greu cysylltiadau fel hyn, gan dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i bobl ifanc o dan 35 yn ardal ARFOR. I Morgan, mae hynny wedi golygu cefnogaeth ariannol i brynu’r offer sydd ei angen arno i lwyddo yn ei swydd. I Charles Gray Engineering, mae’r rhaglen wedi cynnig cymorth i fentro ar brentis heb roi pwysau ar eu hadnoddau fel busnes newydd.

“Mae Llwyddo’n Lleol wedi bod yn help mawr,” meddai Neil. “Mae wedi caniatáu i ni dalu rhan helaeth o gyflog Morgan a phrynu offer ar ei gyfer. Fel busnes bach, mae’r rhaglen wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gallu i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o beirianwyr.”

Ond nid y gwaith yn unig sy’n bwysig. Wrth i brentisiaid fel Morgan ddatblygu eu sgiliau, mae Llwyddo’n Lleol hefyd yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol, gan gysylltu’r cyfranogwyr â phobl ifanc eraill yn yr ardal a hyrwyddo ansawdd bywyd ardderchog sydd ar gael yn ein cymunedau lleol.

Beth yw cyngor Morgan i unrhyw un sy’n ystyried llwybr tebyg? “Ewch amdani,” meddai’n syml. “Os ydych chi’n angerddol am rywbeth, cymryd y cyfle hwnnw yw’r cam cyntaf. Dy’ch chi byth yn gwybod beth allwch ei gyflawni nes i chi roi cynnig arni.”

Mae effaith elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol yn amlwg: mae pobl ifanc yn aros yn lleol, mae busnesau’n ffynnu, ac mae cymunedau’n cryfhau. Drwy fuddsoddi yn bobl fel Morgan a busnesau fel Charles Gray Engineering, mae’r rhaglen yn dangos bod llwyddiant yn dechrau’n lleol.