Ynni Sir Gar
Dros y misoedd diwethaf mae Llwyddo’n Lleol wedi bod yn cefnogi Ynni Sir Gar i redeg prosiect Dyfodol Adfer ble cafodd cyfres o weithdai ei gynnal i bobl ifanc yn ardaloedd Pencader, Pont Tyweli a Chastell Newydd Emlyn. Pwrpas y prosiect oedd i feithrin sgiliau ffotograffiaeth a fideograffiaeth bobl ifanc drwy hefyd ei addysgu am y sector ynni o fewn y sir. Fel rhan o’r gefnogaeth oeddynt hefyd yn cyflogi Bridie Taylor i arwain y prosiect yn rhannol.
Ar y 4ydd o Ragfyr cynhaliwyd arddangosfa o waith y bobl ifanc yn y Pwerdy yn Llandysul. Bwriad yr arddangosfa hon oedd cwmpasu’r hyn a ddysgodd unigolion o’r Elfen Mentro gan Ynni Sir Gâr. Gwelwyd enghreifftiau o’u syniadau a’u hargraffiadau am newid hinsawdd mewn ffordd greadigol. Roedd y rhain yn pwysleisio’r ffaith bod yna atebion lleol, Cymreig i heriau newid hinsawdd.
Roedd Ynni Sir Gâr yn hynod falch o allu creu gofod i bobl ifanc, nid yn unig i ddysgu am faterion newid hinsawdd, ond i ddatblygu gwahanol sgiliau hefyd, megis fideograffiaeth a chelf. Mae’r defnydd naturiol o’r Gymraeg wrth drafod y materion hyn wedi bod yn sail i’r prosiect, gan ddangos nad pwnc uniaith Saesneg yw materion sy’n ymwneud â newid hinsawdd.