Elfen Mentro – Newyddiaduraeth, Hydref 2023

Elfen Mentro - Newyddiaduraeth

Ym mis Hydref 2023, gwnaeth Llwyddo’n Lleol benderfynu ateb y galw wedi iddi ddod i’r amlwg bod yna ddiffyg cyfleoedd ym maes newyddiaduriaeth yn ardaloedd gwledig Cymru.

Drwy’r cyfle newydd hwn, cafodd 12 unigolyn ifanc o ARFOR y cyfle i ymuno â’r rhaglen hyfforddiant Newyddiaduraeth 6 wythnos. Yn ystod y sesiynau, bu arbenigwyr yn trafod agweddau gwahanol ar newyddiaduriaeth, gan gynnwys sut i strwythuro stori dda, creu deunydd amlgyfrwng, a defnyddio Bro360 yn eu hardal leol.

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, roedd yn gyfle i’r unigolion fod yn rhan o rwydwaith o newyddiadurwyr uchelgeisiol a chael profiad gwerthfawr i’w gynnwys ar eu CV.

Cafodd y syniad am y cyfle hwn ei sbarduno ar ôl clywed bod 62% o bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn credu bod mwy o gyfleoedd ym maes newyddiaduriaeth os ydyn nhw’n symud i ffwrdd o adref.

Yr Unigolion Mentrus ...

Cara Medi Walters

Cara Medi Walters

Sir Gâr

“Ymunais â’r cynllun hwn er mwyn ehangu fy sgiliau o ddweud stori yn llwyddiannus. Ers yn iau, mae dweud stori yn rhywbeth sydd wedi fy nhanio a chredaf fod y cynllun hwn yn ddelfrydol i mi ochr yn ochr â’m hastudiaethau. Profa’r cynllun nad oes rhaid mudo i’r ddinas fawr er mwyn bod yn newyddiadurwr llwyddiannus.”

Ifan Meredith

Ifan Meredith

Ceredigion

“Fel person ifanc sy’n dyheu am yrfa fel Newyddiadurwr, dwi’n gobeithio y gall y cyfle unigryw hwn ehangu fy sgiliau newyddiadurol wrth ddysgu a chydweithio â newyddiadurwyr profiadol yn y broses.”

 

Gwenno Roberts

Gwenno Roberts

Sir Gâr

 

“Dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod ag arbenigwyr yn y maes gan ddysgu pob math o sgiliau newyddiadurol oddi wrthyn nhw a’u rhoi ar waith.”

Megan Griffths

Megan Griffths

Ceredigion

 

“Drwy fod yn rhan o’r cwrs hwn, dwi’n gobeithio datblygu sgiliau amrywiol, gan gynnwys ysgrifennu a darganfod stori!”

Matthew Minshull

Matthew Minshull

“Dwi’n edrych ymlaen at glywed profiadau newyddiaduron a chael blas ar y maes ei hun. Dwi hefyd yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu ymhellach, a dysgu sut i lunio stori dda.”

LLoyd Jenkins

LLoyd Jenkins

“Wrth fod yn rhan o’r rhaglen Llwyddo’n Lleol, gobeithiaf gael gwell dealltwriaeth o faes newyddiaduraeth, yn ogystal â dysgu’r grefft o fynd ati i ddarganfod stori a llunio erthygl leol yn gyhoeddus.”

Elen Jones

Elen Jones

Sir Gâr

“Penderfynais ymuno â’r rhaglen hon er mwyn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newyddiadurol amrywiol a dod i adnabod pobl newydd. Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn newyddiaduraeth a’r cyfryngau, felly mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych!”