Elfen Mentro – Digwyddiadau Cymdeithasol, Ionawr 2024

gan | Maw 21, 2024

Ym mis Ionawr 2024, penderfynodd Llwyddo’n Lleol ymateb i’r galw wedi iddi ddod i’r amlwg bod llawer o bobl ifanc yn credu ‘bod dim byd da i wneud yma!’ yn ARFOR …

Er mwyn ymateb i’r galw, cynigiodd Llwyddo’n Lleol le i 12 person ifanc mentrus i ymuno â rhaglen hyfforddiant 6 wythnos i ddatblygu syniadau oedd yn ymateb i’r her hon – boed hynny drwy ddechrau neu ddatblygu elfen gymdeithasol i fusnes, trefnu gŵyl, neu ddigwyddiad hwylus!

Fel rhan o’r rhaglen, gwnaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr o fewn y sector, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid, a denu cwsmeriaid.

Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol, roedd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth ariannol i ddatblygu eu syniad ymhellach.

 

Yr Unigolion Mentrus ...

Steff Rees

Steff Rees

Clwb Cerdded i bobl ifanc

Drwy dderbyn cefnogaeth rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol yr elfen Mentro, sefydlodd Steff glwb cerdded i bobl ifanc yng Ngheredigion. Cafodd y syniad ei ysbrydoli gan y ffaith bod yna glybiau tebyg yn bodoli mewn ardaloedd eraill, ond gwelai Steff nad oedd dim byd tebyg yn lleol i bobl ifanc.

Ceredigion

Megan Plumb

Megan Plumb

Gweithdai Dawns Fodern

Nod Megan drwy fod yn rhan o’r rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol oedd datblygu prosiect Dawns Fodern trwy gyfrwng y Gymraeg a fyddai’n cynnig gweithdai i blant a phobl ifanc, cystadleuaeth yn ei hardal, a chyfle i gyfranwyr berfformio.

Sir Gâr

Rhiannon Gwyn

Rhiannon Gwyn

Grŵp Cymdeithasol i Artistiaid

Ymgeisiodd Rhiannon Gwyn, artist ifanc o Wynedd, i fod yn rhan o’r rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol gyda’r bwriad o greu grŵp cymdeithasol i artistiaid a phobl greadigol hunangyflogedig yng Ngwynedd.

Gwynedd

Lloyd Henry

Lloyd Henry

Clwb coginio i deuluoedd

Mae Lloyd yn athro sydd eisoes wedi cynnal sawl clwb coginio ar gyfer plant rhwng 8 ac 16 oed. Gyda chefnogaeth y rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol, gobaith Lloyd oedd peilota clybiau tebyg ar gyfer oedolion a theuluoedd.

Sir Gâr

Elain Gwynedd

Elain Gwynedd

Gŵyl UMCA - 50 Mlynedd

Ymgeisiodd Elain Gwynedd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, i fod yn rhan o’r rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol er mwyn cynnal Gŵyl UMCA 50 ym mis Mehefin 2024 i ddynodi pen-blwydd yr undeb yn hanner cant. Bydd yr ŵyl yn gwahodd cyn-aelodau o UMCA sydd wedi cyfrannu i’r sin roc Gymraeg.

Ceredigion

Hedydd Ioan

Hedydd Ioan

Noson i Artistiaid Lleol

Mae Hedydd Ioan yn rhedeg label recordiau, INOIS, ers dwy flynedd gyda ffrind sydd eisoes wedi bod trwy broses Llwyddo’n Lleol. Ymgeisiodd Hedydd ar gyfer y rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol oherwydd ei fod eisiau cynnal noson sy’n rhoi llwyfan i greadigrwydd artistiaid lleol, a dangos bod modd gweithio yn y celfyddydau “wrth aros adref”.

Dywedodd Hedydd, “Bydd o’n noson i weld celf newydd: o gerddoriaeth i ffilmiau i gelf weledol, ac yn gyfle i ddathlu a sbarduno syniadau newydd i gynulleidfa ifanc.”

Gwynedd

Gwyneth Morris

Gwyneth Morris

Gŵyl Canol Dre

Mae Gwyneth yn gweithio gyda Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu Gŵyl Canol Dre. Bwriad Gwyneth drwy fod yn rhan o’r rhaglen oedd ennill profiad o drefnu gweithgareddau, gyda’r gobaith y bydd yr arian yn gymorth ar gyfer costau’r ŵyl.

Sir Gâr

Caryl Burke

Caryl Burke

Noson Gomedi

Mae Caryl yn gomedïwr sydd eisiau cynnal Noson Gomedi reolaidd a fydd yn rhoi cyfle i unigolion sy’n newydd i gomedi roi cynnig arni, ac i rai sy’n fwy profiadol arbrofi â deunydd newydd. Ymgeisiodd Caryl Burke i fod yn rhan o’r rhaglen Digwyddiadau Cymdeithasol er mwyn trefnu rhagor o ddigwyddiadau.

Gwynedd

Dylan Jones

Dylan Jones

Sesiynnau Ffit Cymru

Ymgeisiodd Dylan ar gyfer y rhaglen hyfforddiant gyda’r gobaith o gynnal sesiynau ffitrwydd wythnosol ar gyfer teuluoedd, gan alw’r rhaglen yn “Ffit Teulu”. Roedd hwn yn gyfle i deuluoedd godi lefel eu ffitrwydd a chymdeithasu. Os byddai’r dosbarthiadau wythnosol yn llwyddiant, y gobaith wedyn fyddai cynnal digwyddiad “hwyl” e.e. diwrnod chwaraeon ar ddiwedd y cyfnod.

Sir Gâr