Elfen Mentro – Busnes, Hydref 2024

Mae gan Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle ARBENNIG i 30 person ymuno â rhaglen hyfforddiant ar gyfer datblygu syniad busnes.

Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn 10 sesiwn wythnosol gydag arbenigwyr busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.

Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol, bydd cyfranogwyr y rhaglen hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1,000 tuag at ddatblygu eu syniad busnes. Mae’r rhaglen hyfforddiant hon ar agor i geisiadau o bob ardal yn rhanbarth ARFOR, sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.

Cynhelir y rhaglen drwy gyfuniad o sesiynau rhithiol a sesiynau wyneb i wyneb.

Yr Unigolion Mentrus o'r Gogledd ...

Glesni Owen

Glesni Owen

Rwyf wedi bod eisiau cychwyn busnes fy hun ers rhai blynyddoedd ond ddim yn gwybod lle i ddechrau! Dwi wrth fy modd gyda chelf a wedi bod yn creu celf i fy nheulu a ffrindiau, ac eisiau ei droi mewn i busnas fy hun a dwi’n credu bod hyn yn gyfle arbennig i mi a dwi mor falch! Dwi’n edrych ymlaen i ddysgu a codi fy musnes oddi ar y llawr!”

Leonie Jones

Leonie Jones

“Dwi’n edrych ymlaen i fod yn rhan or rhaglen hyfforddiant er mwyn gallu dysgu sgiliau newydd a theimlo’n hyderus i allu cychwyn fy musnas yn iawn! Mae’n rhywbeth dwi wedi bod eisiau gwneud ers blynyddoedd ac mae’r rhaglen yma yn jyst be o ni angen i rhoi’r ‘wmff’ i mi gychwyn!”

Sally Jones

Sally Jones

Gwnaethpwyd fy nghais gan fy mod wedi clywed adborth gwych am sut mae’r cynllun yn cefnogi busnesau bach i sefydlu eu hunain. Rwy’n gyffrous am y cyfle i elwa ar yr arweiniad a’r adnoddau a gynigir, ac rwy’n obeithiol y bydd y cymorth hwn yn fy helpu i gyflawni llwyddiant gyda fy musnes.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu mwy am strategaethau marchnata effeithiol, sy’n greiddiol i dwf. Yn ogystal, mae’r cymorth ariannol a gynigir gan y rhaglen yn fonws sylweddol, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i dderbyn y math hwn o gefnogaeth.”

Becky Adams

Becky Adams

“Dw i’n edrych ymlaen at y sesiynau gyda’r arbenigwyr i mi gael dysgu mwy am marchnata busnes a denu cwsmeriaid!”

Elis Jones

Elis Jones

“Ymgeisiais am y rhaglen hyfforddiant er mwyn dysgu sut i droi diddordeb yn fusnes llwyddiannus.

Jack Cain

Jack Cain

Mi wnes i ymgeisio oherwydd dwi wedi bod hefo gweledigaeth o ddechrau’r busnes yma ers amser maith, ond yn teimlo mod i bob tro wedi bod angen y cymorth gan rywun profiadol. Un peth dwi’n edrych ymlaen am yw’r profiad o siarad â phobol sydd wedi gwneud beth dwi’n gobeithio ei wneud yn y dyfodol.”

Gwenno Till

Gwenno Till

“Dwi’n rili edrych ymlaen i fod yn rhan o Llwyddo’n Lleol a cael gweld pa cyferiaid fydd yr elfen mentro yn mynd a fi a fy ngwaith llaw-rhydd fel ffotograffydd a cyfarwyddwr ffilmiau. Dwi’n ddiolchgar ac yn awyddys i fynychu ar y cyfleuoedd yma sydd ar gael i ni fel bobol ifanc yn yr ardal, a fy prif gobaith yw i ddalld syd i sefydlu fy musnes a cael cychwyn da gyda cymorth LL.”

Robin McNaught

Robin McNaught

“Mi wnes i ymgeisio am y rhaglen hyfforddiant hon i geisio datblygu sgiliau fydd yn hanfodol i mi wrth redeg fy musnes ac mewn addysg yn y Brifysgol.”

Ffion Emyr

Ffion Emyr

“Dwi’n gyffrous iawn i archwilio posibiliadau newydd, ac yn hynod ddiolchgar i Llwyddo’n Lleol am roi’r cyfle yma i mi. Mae bod yn Ddylunydd Mewnol proffesiynol wastad wedi bod yn freuddwyd, a rwan dwi’n cael y cyfle i herio ac addysgu fy hun, a gobeithio bydd hyn yn agor drysau i gyfleoedd newydd.”

Hannah Hughes

Hannah Hughes

“Fe wnes i ymgeisio gan fy mod efo’r weledigaeth i gychwyn busnes a chyfuno fy holl sgiliau, ac roeddwn yn meddwl byddai bod yn rhan o’r Rhaglen Hyfforddiant Busnes ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 yn rhoi y gefnogaeth a’r hwb i mi fynd amdani!”

Dylan Evans

Dylan Evans

“Dwi’n edrych ymlaen cael dysgu be sydd angan er mwyn cael dechrau rhedag busnes fy hun yn ogystal a cael rhwydweithio gyda pobol mewn sefylla tebyg i mi.”

Dion Wyn

Dion Wyn

“Mae cychwyn y busnes yma ‘di bod ar y cardiau ers rhai blynyddoedd i ddweud y gwir ond fel rhywun heb unrhyw syniad o le i ddechrau ar yr ochr busnes, oedd y cyfle i ddysgu beth sydd ei angen i rhoi ar ben ffordd tra hefyd yn derbyn cymorth ariannol i allu sicrhau llwyddiant – yn rhy dda i fethu! ‘Dwi hefyd wedi gweld cwpl o’u straeon llwyddiant fel bod nhw’n tyfu, felly ‘dwi’n gwybod ei fod yn gweithio os ydych chi’n mynd ‘all in!’”

Yr Unigolion Mentrus o'r De Orllewin ...

Megan Haf Davies

Megan Haf Davies

“Rwy’n angerddol iawn dros y busnes yma ac er fy mod i wedi bod yn gweithio ar dyfu’r cwmni yn organig, mae’n cyrraedd pwynt lle hoffwn i gallu cymryd y busnes ymhellach. Rwy’n meddwl y bydd Llwyddo’n lleol yn gallu fy nhywys i ar y llwybr hwn ac ymddwyn fel catalydd i lwyddiant Cerdd Megan Haf heb amheuaeth.”

Tomos Lloyd

Tomos Lloyd

“Dwi mor excited i ddachre’, a dwi yn edrych ’mlan i ddysgu sgiliau newydd. Dwi moin cael cyfle newydd mas o hwn, a gweld lle ma’ fe yn cymryd fi! Dwi wedi ymuno gyda hwn i datblygu fy ngwaith, a cael help gan bobol eraill i gweld beth gallai ’neud yn well!”

Tomos Lewis

Tomos Lewis

“Dwi’n edrych ‘mlaen i ddysgu mwy am sut i redeg busnes llwyddiannus yn ogystal â dysgu sgiliau gwerthfawr fydd yn fy ngalluogi i ehangu fy musnes yn y dyfodol.”

Heddwyn Cunningham

Heddwyn Cunningham

“Rwy’n edrych mlaen i ddysgu wrth arbennigwyr busnes.”

Catrin Medi Rees

Catrin Medi Rees

“Rwy’n edrych ‘mlan i gwrdd a pobol newydd a dysgu sgiliau gwerthfawr”.

Gruffydd Lewis

Gruffydd Lewis

“Dwi yn edrych ymlaen i fod yn rhan or rhaglen er mwyn dysgu sgiliau i cael well siawns o lwyddo fel busnes newydd. Dwi ffeili aros dachre!”

Catrina Jones

Catrina Jones

“Gwnaethom ni ymuno â rhaglen ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 er mwyn dysgu’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn rhedeg busnes llwyddiannus. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â rhyngweithio gyda phobl debyg yn yr un ardal.”

Dafydd Syfydrin

Dafydd Syfydrin

“Rwy’n ddiolchgar iawn i gael y gyfle i ymuno a Llwyddo’n Lleol, ac yn edrych mlaen i ddysgu fwy am sut i ddachre a rhedeg busnes.”

Elan Davies

Elan Davies

“Dwi’n edrych ‘mlan i fod yn rhan o griw elfen Mentro Llwyddo’n Lleol i ddysgu sgiliau newydd, datblygu syniadau a magu hyder; yn ogystal a chymdeithasu gyda unigolion tebyg o’r ardal.”

Esyllt Griffiths

Esyllt Griffiths

“Mi wnes i ymgeisio er mwyn datblygu fy sgiliau, ac yn edrych ’mlan i ddysgu wrth y busnesau eraill.”

Ffion Medi Rees

Ffion Medi Rees

“Rwy’n disgywl ymlaen i’r cyfle yma er mwyn creu cysylltiadau newydd, dysgu wrth y goreuon yn y byd marchnata ac hefyd y cyfle i ddatblygu fy sgiliau er lles fy musnes bach”

Rachel Harries

Rachel Harries

“Fi’n disgwl ’mlan i gwrdd â pobol a dysgu sgiliau newydd!”

Sian Elin

Sian Elin

“Rwy’n edrych mlan i agor drysau newydd ar hyd y rhaglen hyfforddiant, a fydd yn help i’r dyfodol.”

Bleddyn Thomas

Bleddyn Thomas

“Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu a rhannu syniadau gyda phobol yn y byd busnes ac i geisio ehangu fy nhealldwriaeth o sut mae hi i redeg busnes fy hunan ar heriau bydd yn fy wynebu.”