Blog Elen Beynon

Helô. Fy enw i yw Elen, ac am y tri mis a hanner diwethaf dwi wedi bod yn gweithio i gwmni cyhoeddi o’r enw Atebol fel rhan o lwybr gyrfaol ARFOR a’r rhaglen Llwyddo’n Lleol. 

Mae Atebol yn gwmni cyhoeddi amlgyfrwng sy’n creu amrywiaeth o gyhoeddiadau ar gyfer y meysydd addysgol a hamdden yn gyffredinol. Mae’r ddarpariaeth yn eang iawn, ac yn cynnwys datblygu gwefannau, apiau, gemau a rhaglenni teledu. Mae’r ddarpariaeth wedi’i hanelu at blant, pobl ifanc ac oedolion, gyda’r cyhoeddiadau naill ai yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Mae Atebol yn cyhoeddi nofelau, llyfrau stori a llun, a deunydd addysgol, yn ogystal â darparu gwasanaethau cyfieithu proffesiynol mewn sawl iaith, gan gynnwys ieithoedd tramor. Ac ar ben hyn oll, mae’r cwmni hefyd yn cynnwys Cyfatebol, sy’n darparu gwasanaeth isdeitlo ar gyfer S4C a’r Llyfrgell Genedlaethol, er enghraifft. 

Yn ystod fy nghyfnod o brofiad gwaith, roeddwn i’n rhan o’r Adran Gyhoeddi. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys dwy elfen, sef bod yn rhan o’r tîm oedd yn paratoi adnoddau addysgol, a’r tîm oedd yn gyfrifol am wasgnod newydd Atebol, sef Sebra. Mae Sebra yn paratoi deunyddiau darllen ar gyfer oedolion. 

Cefais flas ar y byd cyhoeddi, gan ddod i ddeall a gwerthfawrogi’r camau a’r prosesau manwl sy’n gysylltiedig â pharatoi cyhoeddiadau newydd ar gyfer y wasg. Yn benodol, roeddwn i’n gweithio ar baratoi dwy gyfrol newydd ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs galwedigaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Noddwyd y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru, CBAC a City & Guilds ar gyfer cwrs newydd oedd yn dechrau ym mis Medi 2024. Roedd rhaid paratoi dwy gyfrol o’u dechrau i’w diwedd mewn pedwar mis yn unig! Roedden nhw’n gyfrolau swmpus iawn, sef tua 284 tudalen yr un. Yn ystod y cyfnod, fe wnes i gydweithio ag aelod arall o’r tîm yn paratoi’r testun dechreuol er mwyn anfon drafftiau at y prif awdur a’r tri awdur arall, ynghyd ag anfon copïau at CBAC yng Nghaerdydd. Roedd angen i ni wirio’r testun a’i olygu yn ogystal â sicrhau ei fod yn cael ei brawfddarllen o leiaf teirgwaith. Roedd rhaid hefyd sicrhau bod lefel yr iaith yn addas ar gyfer y grŵp targed, sef myfyrwyr Ôl-16. Roedd llawer i’w ddysgu wrth ofalu bod y testun o fewn gafael y myfyrwyr – a hynny yn y ddwy iaith. Rhoddwyd pwyslais hefyd ar ddefnyddio’r termau cywir – yn arbennig felly yn y Gymraeg. Gan fod llawer o’r termau’n anghyfarwydd yn Gymraeg, roedd angen defnyddio gwahanol ffyrdd o sicrhau bod myfyrwyr yn deall ystyr y term. Roedd hyn yn cynnwys paratoi Geirfa gynhwysfawr. Gan y byddai’r fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu defnyddio mewn sesiynau dwyieithog, o bosib, roedd angen i’r testun yn y ddwy iaith gyd-fynd â’i gilydd. Roedd angen i’r un testun fod ar yr un dudalen yn y ddwy iaith hefyd. 

Wrth olygu, fe ddysgais am y sylw i fanylder sydd ei angen yn y byd cyhoeddi. Mae’n cynnwys pob math o sgiliau, gan gynnwys dewis a dethol deunydd gweledol perthnasol, gosodiad y tudalennau, a’r dyluniad. Tasg arall a ofynnai am sylw i fanylder oedd paratoi Mynegai ar gyfer y ddau lyfr. Roedd angen manylder wrth wneud yn siŵr bod rhif y tudalennau yn cyd-fynd â’r testun. Roedd rhaid llunio a gwirio manylion y Cydnabyddiaethau a’r Hawlfreintiau hefyd – heb sôn am lunio clawr oedd yn denu sylw! 

Bûm hefyd yn cydweithio â’r tîm Cyhoeddusrwydd a Marchnata mewn perthynas â gwasgnod Sebra. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys paratoi sawl drafft ar gyfer un o gyhoeddiadau diweddaraf Sebra. Fe wnes i ddod i ddeall gwir bwysigrwydd creu clawr da sy’n denu sylw, a’r angen i’r testun ar y cefn fod yn grynhoad effeithiol sy’n creu awydd i brynu a darllen y gyfrol. Fe wnes i fwynhau’r elfen greadigol hon yn fawr. 

Roedd y profiad gwaith yn amrywiol tu hwnt, gyda rhai elfennau creadigol a rhai llai creadigol wrth baratoi cyfrolau addysgol ar gyfer y wasg. Roedd cael yr amrywiaeth yma o waith yn brofiad arbennig, ac fe gyfoethogodd fy mhrofiadau o’r byd creadigol a’r byd cyhoeddi ill dau. Cynigiodd y profiad olwg eang o’r maes drwy brofiadau uniongyrchol o natur y gwaith. Dwi’n ddiolchgar iawn i ARFOR a Llwyddo’n Lleol am roi’r fath gyfle i mi yn y byd cyhoeddi. Mae’r prosiect hwn yn hollbwysig ac yn cynnig cyfle i gael blas ar ddiwydiant gyda chwmni blaengar a phrofiadol. 

Yn ogystal â chael y cyfle hwn i weithio mewn cwmni cyhoeddi yng Nghymru, fe wnes i fwynhau’r sesiynau cymdeithasol gydag aelodau eraill o’r rhaglen. Roedd yn gyfle ardderchog nid yn unig i ennill profiadau newydd, ond hefyd i greu rhwydwaith cymdeithasol newydd. Dyma gyfle ardderchog a fydd yn sail werthfawr wrth i mi symud ymlaen yn y byd cyhoeddi yng ngorllewin Cymru.