Printer 3D a be all hyn gynnig i Pennotec o safbwynt Lydia Dawson Jones

Rwyf wedi gweithio yn Pennotec ers dros bedair blynedd bellach ac rwyf wedi bod yn rhan o’i ddatblygiad fel busnes arloesol yn y maes yr Economi Cylchol. Ers graddio trwy’r llwybr prentisiaeth gradd gyda’r cwmni a thrwy brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo, rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd ar gyfer profiadau trosglwyddadwy a hyfforddiant gwerthfawr.
Fy swydd yn Pennotec yw Peiriannydd Prosiecta. Gallaf weld y manteision enfawr ar gyfer fy ngyrfa o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaol (CPD). Yn enwedig er mwyn addasu a chadw i fyny â thechnoleg sy’n datblygu’n barhaus. O fewn fy hyfforddiant diweddaraf trwy cefnogaeth werthfawr Llwyddo’n Lleol rwyf wedi dod i ddeall pwysigrwydd mawr mae cael y gallu i greu prototeipiau a’u profi i sicrhau llwyddiant cyn buddsoddiad mawr. Wrth gynyddu prosesau, yn enwedig prosesau arloesol lle nad yw mecanweithiau mor syml â rhagwelwyd, mae gallu creu rhannau a dyfeisiau pwrpasol a phrofi’r gwrthrychau hyn yn y maes yn hanfodol.Â
Gefais flâs o dylunio trwy wersi ‘Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur’ (CAD) a ‘Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur’ (CAM) trwy fy nghwrs gradd. Ond yn fwy diweddar dwi wedi ymuno ar cwrs noswaith ymarferol Coleg Meirion Dwyfor (gwelir llun o’r cwrs is lawr).
Yn ystod y cyrsiau peirinaedd rwyf wedi eu mynychu yn diweddar trwy cymorth Llwyddo’n Lleol, rwyf wedi gwneud cysylltiadau â phobl y mae eu gwaith yn cynnwys gweithgynhyrchu ychwanegion (e.e. argraffu 3D). Tynnwyd sylw ataf yr hyblygrwydd a’r cyfleoedd diderfyn bron y gall argraffu 3D a’r sgiliau cysylltiedig eu cynnig.Â
Gyda chymorth Llwyddo’n Lleol, mis Chwefror byddaf yn mynychu cwrs argraffu 3D yn Llundain. Bydd y cwrs yn dysgu modelu 3D a sut i ddefnyddio ystod eang o ddeunyddiau cyffrous a thechnegau argraffu 3D. Byddaf yn dysgu sut i ddylunio a gwneud modelau arbenigol ar gyfer cynhyrchion, peirianneg a phrototeipiau. Dysgu hefyd sut i ddefnyddio argraffu resin 3D yn effeithiol gan gynnwys ystod eang o ffilamentau PLA (clai, pren, metel a charreg). Bydd hyn yn adeiladu ar fy ngwybodaeth presennol a’m sgiliau gwneud modelau ac yn ei codi fy wybodaeth a gallu i’r lefel nesaf.
Gydag argraffydd 3D yn gwaith, byddaf yn gallu rhagori ar dargedau’r cwmni a helpu i ddatblygu syniadau a symleiddio prosesau. Yn unigol bydd fy sgiliau CAD yn cael eu gwella’n fawr ac o ganlyniad bydd y cwmni’n gallu cynnig technolegau hyd yn oed yn fwy amrywiol. Rwy’n credu mai ychydig iawn fydd y tu hwnt i derfynau dylunio. Yn enwedig gan ein bod yn datblygu syniadau a phrosesau newydd yn gyson, mae’n gyffrous iawn gwybod y bydd modd profi’r syniadau hyn yn fewnol ac na fydd yn rhaid mynd i draul fawr i allanol. Bydd y posibilrwydd o roi theori ar waith a gwneud penderfyniadau o’r canlyniadau yn cynorthwyo gyda datblygiad personol a chynllunio prosiectau.
 Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Pennotec ac yn fy natblygiad gyrfa personol!