Yr wythnos hon, cafodd myfyriwr o Ynysoedd y Gorllewin, yr Alban, groeso yng ngogledd Cymru ar ymweliad arbennig gyda phrosiect ARFOR Llwyddo’n Lleol. Nod y daith oedd rhoi cipolwg i Jamie Duncan ar sut mae cymunedau Cymraeg eu hiaith yn meithrin cyfleoedd lleol, gan rannu arferion da a phrofiadau gwerthfawr rhwng dwy genedl sydd â hanes a heriau tebyg.
Fel rhan o raglen ARFOR Llywodraeth Cymru, bwriad Llwyddo’n Lleol yw hyrwyddo cyfleoedd economaidd ar draws yr ardaloedd hynny ble mae’r Gymraeg ar ei chryfaf, sef siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn rhan o gynllun Sgeama Greis Gnìomhachais nan Oileanach (Cynllun Lleoliad Myfyrwyr Gaeleg) mae’r fenter yn yr Alban â nod tebyg, gan gefnogi myfyrwyr i fyw a gweithio mewn cymunedau ble mae’r iaith Gaeleg yn cael ei siarad.
Yn ystod ei ymweliad cafodd Jamie gyfle i ddysgu am ffyrdd arloesol o annog pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i’w hardaloedd i weithio neu sefydlu busnesau ac yn sgil hynny i gryfhau’r iaith.
Jade Owen, yw rheolwr prosiect Llwyddo’n Lleol, eglurodd bwysigrwydd yr ymweliad: “Mae wedi bod yn fraint croesawu Jamie i Ynys Môn a Gwynedd – cyfle nid yn unig i rannu ein profiadau ni, ond hefyd i ddysgu ganddo fo. Mae cydweithio er mwyn annog dysgu parhaus yn un o’n amcanion craidd ni fel prosiect a hynny er mwyn ymestyn budd y gwaith rydyn ni yn ei wneud.
“Mae’n hynod o werthfawr cael gweld beth sy’n gweithio mewn ardaloedd eraill sy’n wynebu heriau tebyg i ni, ac yn benodol felly colli pobl ifanc a’r effaith mae hynny yn gael ar ddyfodol yr iaith.”
Yn ystod ei amser yma, mae Jamie wedi bod yn gweld prosiectau llwyddiannus sy’n hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan annatod o fywyd a gwaith gan gynnwys cynllun ynni llanw Morlais ger Caergybi, a’r Nyth, cartref cwmni theatr Frân Wen ym Mangor. Cafodd flas ar waith mentrau lleol a sgwrsio gydag unigolion sydd wedi cael llwyddiant o fewn eu milltir sgwâr.
Dywedodd: “Mae’r daith i Gymru wedi bod yn wych, a rydw i wedi cael gweld yn uniongyrchol sut mae pobl ifanc yn cael y cyfle, trwy brosiectau fel Llwyddo’n Lleol – i weithio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n dda gweld y tebygrwydd gyda’n mentrau Gaeleg ni yn Ynysoedd y Gorllewin, i sicrhau bod iaith yn rhan naturiol o fywyd a gwaith bob dydd.”
Fel rhywun sy’n gweithio drwy gyfrwng yr iaith Gaeleg, roedd yn gyfle iddo weld sut mae mentrau ieithyddol yng Nghymru yn gweithio ac i feddwl sut gall dulliau tebyg gael eu haddasu ar gyfer ei gymuned ei hun.
Y gobaith yw bod y cydweithio rhwng prosiect Llwyddo’n Lleol a’r cynllun myfyrwyr yn yr Alban yn dangos bod modd meithrin gyrfaoedd llewyrchus mewn ieithoedd lleiafrifol, gan gryfhau economïau lleol ac adeiladu dyfodol lle mae diwylliant ac iaith yn gallu ffynnu.