Bydd Lleisiau Lleol, podlediad newydd gan brosiect ARFOR Llwyddo’n Lleol yn cael ei lansio ar 4 Chwefror 2025. Wedi’i gynhyrchu fel rhan o raglen ARFOR, mae’r gyfres hon yn archwilio bywyd, gwaith a chymuned ardaloedd Arfor, gan ddathlu straeon unigolion sy’n dewis ffynnu’n lleol.

Drwy roi llwyfan i bobl sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, mae’r podlediad yn adlewyrchu nodau strategol rhaglen ARFOR Llywodraeth Cymru – yn enwedig drwy greu cyfleoedd i bobl a theuluoedd ifanc a chefnogi cymunedau mentrus sy’n cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg. Trwy rannu profiadau gwirioneddol o fyw, gweithio a mentro yng ngorllewin Cymru, mae’r gyfres yn dangos sut mae hunaniaeth leol a mentergarwch yn creu economi fywiog a chymunedau cynaliadwy.

Cynnwys y Podlediad

Dan arweiniad Ffion Emyr, mae Lleisiau Lleol yn cynnwys sgyrsiau gyda rhai sydd wedi defnyddio cyfleoedd ARFOR i aros, dychwelyd neu ffynnu yn eu bro:

  • Rhedeg busnes yn y rhanbarth – Daniel Grant (Pen Wiwar) a Tomos Owen (Pelly) yn trafod eu taith fel entrepreneuriaid ifanc.
  • Adeiladu cymuned fywiog – Gwen Owen (Môn Girls Run) a Steff Rees yn trafod creu cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol.
  • Magu teulu yng ngorllewin Cymru – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees yn myfyrio ar fanteision a heriau byw yng nghefn gwlad.
  • Dychwelyd adref – methiant neu lwyddiant? – Huw Rees a Daniel Thomas yn rhannu eu profiadau o adael ARFOR am Gaerdydd a Llundain cyn penderfynu dod yn ôl.

Dywedodd Daniel Grant:

“Nid yn unig y mae rhedeg busnes yma yn bosibl – mae’n werth chweil. Mae cefnogaeth gan Llwyddo’n Lleol wedi helpu i droi syniadau yn realiti.”

Ychwanegodd Steff Rees:

“Mae ‘na gamsyniad nad oes ‘dim byd i’w wneud’ yn ARFOR, ond mae’r gwir yn hollol wahanol – mae’r gymuned yn llawn egni a chyfleoedd.”

Pwysleisiodd Eleth Owen, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol:

“Mae’r gyfres hon yn amlygu’r bobl sy’n profi bod ARFOR yn llawn o gyfleoedd. Boed yn lansio busnes, creu gofodau cymdeithasol, neu ddychwelyd adref, mae’r straeon hyn yn dangos yr uchelgais a’r gwytnwch sy’n cryfhau ein cymunedau Cymraeg.”

Mae’r podlediad nid yn unig yn rhoi llais i’r bobl sy’n manteisio ar gyfleoedd economaidd lleol, ond hefyd yn atgyfnerthu’r Gymraeg fel iaith fyw a gweithredol yn y gweithle a’r gymuned. Mae hyn yn cyd-fynd â nod strategol ARFOR i gryfhau hunaniaeth cymunedau Cymraeg a sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu gweld dyfodol disglair yn eu bro.

Bydd pennod newydd yn cael ei rhyddhau bob wythnos ar Spotify, Apple Podcasts, Amazon Music/Audible a YouTube.

Gwrandewch nawr i ddarganfod sut mae pobl yn creu llwyddiant lleol, ar eu telerau eu hunain.