Pwrpas y gronfa yw i beilota datrysiadau newydd ac arloesol i heriau go iawn sy’n bodoli yn ardal ARFOR (Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gâr) i gryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg. Gall rhain fod ar lefel lleol a/neu rhanbarthol gyda’r nôd o wella cydlyniant cymunedol i sicrhau cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg, gan greu cyfleoedd i fwy o bobl i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r prosiect yn ffocysu ar ddod a sefydliadau at ei gilydd, i gydweithio ac i ddatrys heriau lleol a rhanbarthol, a pheilota syniadau arloesol all ddod yn endidau masnachol yn yr hir dymor i sicrhau bywiogrwydd economaidd cymunedau a galluogi pobl i fyw a gweithio mewn ardaloedd Cymraeg.
Gan fod y gwaith gweithredol ar gyfer y Gronfa Her wedi dod i ben yn fis Rhagfyr mae yna gyfres o weithdai rhannu dysgu wedi cynllunio i ddod a phrosiectau o fewn y run sectorau i ddod at i gilydd i rannu dysgu , gwybodaeth ac arfer da.
Y cyntaf o’r gweithdai oedd gweithdy rhithiol yn canolbwyntio ar gynlluniau ymchwil, y sefydliadau oedd yn rhannu ei dysgu o’i phrosiectau oedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant dan ofal Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd.
Cafwyd cyflwyniad diddorol a thrafodaeth eang ar y gwersi ar hyn a ddysgwyd oi cynllun sef cynllun Iaith Gweithle, Iaith Gweithlu.
Yr ail weithdy yn y gyfres oedd Gweithdy Rhannu Dysgu – Maes Chwaraeon lle’r oedd y gweithdy dan ofal; Gwyn Derfel, Rheolwr Datblygu’r Gymraeg (Undeb Rygbi Cymru), Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus (Cymdeithas Bel – Droed Cymru) a Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr (Mentrau Iaith Cymru).
Cafwyd cyflwyniadau cryf gan bob un prosiect ar yr hyn roeddent wedi dysgu, y partneriaid a creuwyd ar effaith byr a hir dymor ar bob un cynllun.
. Roedd yn wych clywed adborth casglwyd gan y cynlluniau am yr effaith roedd ei phrosiectau wedi cael yn ardaloedd roeddent wedi gweithredu ynddo. Dywedodd Ian Gwyn Hughes taw’r her roedd y FAW wedi adnabod oedd yr angen i sicrhau llwyddiant y Wal Goch yn cyrraedd y byd pêl-droed ar lawr gwlad, ac yn cyrraedd cymunedau ein clybiau lleol. Roeddent wedi cynnal 11 digwyddiad ar draws siroedd ARFOR , roedd yr ymateb ar effaith wedi bod yn anhygoel. Mae pob un geiniog o’r cynllun wedi mynd i’r clybiau ar fusnesau cynhaliwyd y digwyddiadau. “ heb os , i’r sawl un ohonom sydd wedi bod yn bresennol ac ynghlwm ar ddigwyddiadau yma yn yr ardaloedd yma draws y flwyddyn ddiwethaf mi fydd y digwyddiadau , y nosweithiau yma yn aros yn y cof i ni fel cymdeithas a gobeithio hefyd fod y bobol yn y cymunedau lleol yn teimlo’r un peth a byddwn yn siarad am y digwyddiadau yma am flynyddoedd i ddod.”
“Bydde ni byth wedi gallu cynnal y fath digwyddiad heb y gefnogaeth gan FAW maen cyfle i Gadw’r gymuned ar fusnesau yn fyw a chael pawb o bob oedran gyda’i gilydd” nodwyd un o unigolion digwyddiad Aberporth.”
Nodwyd Ian Gwyn Hughes wedi llwyddiant ei digwyddiadau eu bod am fabwysiadu’r gweithgaredd yma i’w gweithgaredd blynyddol. Fydd yn cadw’r prosiect ar gynllun yn aros ac yn cadw i gael effaith hir tymor.