Mae menter arloesol yn mynd i’r afael ag un o heriau mwyaf cefn gwlad Cymru: cadw pobl ifanc â’u gwreiddiau yn eu cymunedau. Mae Llwyddo’n Lleol 2050, sy’n rhan o raglen ARFOR, yn gweithio i fynd i’r afael â’r ecsodus o siaradwyr Cymraeg ifanc o ardaloedd gwledig trwy brofi y gall eu milltir sgwâr gynnig cyfleoedd bywiog, balchder diwylliannol, a dyfodol cryf.
I Mared Jones, myfyriwr graddedig o Gaerdydd sydd wedi dychwelyd adref ar ôl amser i ffwrdd ac sy’n rhan o gymuned Clwb Rygbi Aberaeron, mae’r fenter wedi gwneud gwahaniaeth.
“Ro’n i wastad yn meddwl y byddai’n rhaid i mi symud i ffwrdd i gael unrhyw fath o fywyd cymdeithasol neu yrfa, ond mae’r digwyddiadau hyn wedi dangos i mi fod cymaint yn digwydd yma yng Ngheredigion. Mae’n wych gweld y clwb yn byrlymu gyda phobl fy oedran i, ac mae wedi gwneud i mi fod eisiau aros a bod yn rhan ohono.”
Gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Llwyddo’n Lleol yn cefnogi clybiau rygbi yng Ngheredigion i gynnal digwyddiadau arloesol, dwyieithog sy’n hybu’r Gymraeg, cryfhau cymunedau lleol, a denu cenedlaethau iau i aros a ffynnu. Gyda hyd at £1,650 ar gael fesul clwb, mae’r fenter yn helpu clybiau rygbi i ddod yn ganolbwyntiau diwylliannol lle mae chwaraeon, cymuned a chreadigedd yn cydblethu.
Meddai Gwion Dafydd, aelod o Glwb Rygbi Castellnewydd Emlyn:
“Mae ein clwb wastad wedi bod yn fwy na rygbi – mae’n lle i bobl gyfarfod, cysylltu, a theimlo’n rhan o rywbeth. Mae Llwyddo’n Lleol wedi ein helpu i ddod â chyffro go iawn yn ôl, gyda digwyddiadau sy’n denu wynebau newydd ac yn cadw’r gymuned yn fyw.
“Mae’r cyllid yma wedi ein galluogi i drio cwpl o bethau gwahanol, pethau lle byddai ychydig o risg wedi bod yn y gorffennol, ond mae’r ddawn gerddorol sydd ar gael yn y Gymraeg yn sicr wedi agor ein llygaid yma yn Dôl Wiber.”
Ychwanegodd Gwion:
“Trwy gynnal digwyddiadau fel hyn, rydyn ni’n dangos i bobl ifanc fod cymaint i’w fwynhau ac i ymfalchïo ynddo yma yng Ngheredigion. Mae’n ymwneud â chreu gofod lle gallant weld dyfodol iddyn nhw eu hunain heb fod angen gadael.”
Rhannodd Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau prosiect Llwyddo’n Lleol, ei gweledigaeth ar gyfer y fenter:
“Clybiau rygbi yw calon cymunedau Ceredigion. Drwy gefnogi’r clybiau hyn i gynnal digwyddiadau bywiog, rydym yn helpu i’w cadw’n berthnasol, yn gyffrous ac yn llawn bywyd i bob cenhedlaeth.
“Y nod yw gwneud y mannau hyn yn gynhwysol ac yn groesawgar, lle mae pawb yn teimlo maen nhw’n gallu bod yn rhan o’r gweithredu, p’un a ydyn nhw’n gefnogwyr rygbi ai peidio.”
Tynnodd Alaw sylw hefyd at effaith ehangach y fenter:
“Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi bywyd newydd i gymunedau gwledig. Maen nhw’n dod â phobl ynghyd, yn hybu balchder lleol, ac yn dangos y cyfleoedd anhygoel sy’n bodoli yma yng Ngheredigion. Rydyn ni eisiau i bobl ifanc weld y clybiau hyn – a thrwy hynny, eu milltir sgwâr – fel lleoedd lle gallant fod yn rhan o rywbeth mwy.”
Uchafbwyntiau i ddod:
- Clwb Rygbi Llambed (26/12): Diwrnod Darbi yn erbyn Llanybydder, gyda cherddoriaeth fyw gan Llew Davies.
- Clwb Rygbi Aberteifi (26/12): Gemau iau a cherddoriaeth fyw gyda Jonathan White i godi arian i adran ieuenctid y clwb.
- Clwb Rygbi Llambed (28/12): Darbi Llambed v Aberystwyth, ac yna Newshan yn fyw ar gyda’r nos.
- Clwb Rygbi Llanybydder (4/1): Noson codi arian gyda Baldande, Disgo Elfyn, sgetsys comedi gan y chwaraewyr, ac ocsiwn.
- Clwb Rygbi Aberaeron (11/1): Noson gomedi ac adloniant Cymraeg.
- Clwb Rygbi Tregaron (16/1): Noson syllu ar y sêr ac astroffotograffiaeth.
- Clwb Rygbi Aberaeron (18/1): Noson adloniant Cymraeg gyda Llew Davies.
- Clwb Rygbi Tregaron (31/1): Trafodaeth banel Gymraeg yn dathlu pen-blwydd y clwb yn 50 oed, gyda sylfaenwyr a chwaraewyr y tymor cyntaf.
Am fwy o fanylion neu i ddarganfod sut mae Llwyddo’n Lleol yn gwneud gwahaniaeth ewch i: llwyddonlleol2050.cymru