Gyda hi fod yn wythnos gyntaf o dymor yr hydref. Rydym yn edrych nôl ar gynhesrwydd ein haf! Roedd yn grêt bod yn rhan o fwrlwm digwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd eleni. Mi roedd Cronfa Her ARFOR yn brysur gyda thri phanel ar faes yr Eisteddfod:
- Llwyfan i Heriau ARFOR
- Byd y campau yn ARFOR
- Trafodaeth Gweithleoedd Cymraeg
Diolch i’n panelwyr oedd wedi eu ffurfio o rhai o’n prosiectau Cronfa Her, sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth ARFOR ac arbenigwyr yn y maes.
Roedd Haia Esteddfod sef un o’n prosiectau Cronfa Her wedi cynnal ffeinal cyffrous dros ben yng Nghaffi Maes B a wnaeth ddenu gwesteion arbennig, gan gynnwys y pêl-droediwr enwog Joe Ledley! Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu ac i Haia – prosiect Cronfa Her ARFOR am gynnal digwyddiad mor llwyddiannus.
