Yn ystod grwpiau trafod Llwyddo’n Lleol gyda phobl ifanc yng Ngheredigion, fe
ddaeth i’r amlwg bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ym myd y cyfryngau
yng nghefn gwlad ARFOR.

Er bod llawer o ddiddordeb yn lleol, a nifer helaeth yn heidio i brifysgolion dinesig i
astudio newyddiaduraeth a’r cyfryngau, soniodd sawl un nad oedd yna ryw lawer o
gyfleoedd am brofiadau ymarferol yn y maes yn agos at adref.

Penderfynodd Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau Ceredigion gyda phrosiect
Llwyddo’n Lleol, i fynd i’r afael â’r her a threfnu penwythnos ‘Arloesi mewn Amaeth’.
Dyma benwythnos oedd yn cynnig deuddydd llawn profiadau ym myd y cyfryngau, o
sgriptio, ffilmio, cyflwyno a golygu cynnwys, a’r cyfan yn canolbwyntio ar ddarlledu o fyd amaeth. Dewiswyd naw unigolyn brwdfrydig i fod yn rhan o’r penwythnos gyda’r
gobaith o danio’u huchelgais a’u hangerdd i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y sector yn y
dyfodol.

Dywedodd Alaw: “Bwriad y penwythnos hwn oedd cynnig cyfle unigryw i unigolion yr
ardal i brofi hyfforddiant sydd ddim, fel rheol, ar gael yn lleol. Roeddwn i’n awyddus i
ddangos bod modd i bobl ifanc weithio ym myd amaeth mewn ffyrdd sydd efallai yn
llai amlwg a thraddodiadol, a rhoi cipolwg iddyn nhw ar un o’r diwydiannau eraill y
gallan nhw ei gyfuno ag amaeth.”

Ychwanegodd Alaw: “Roedd y penwythnos yn gyfle iddyn nhw gwrdd â phobl
newydd, creu cysylltiadau a all fod o fudd iddyn nhw yn y dyfodol, datblygu sgiliau
newydd, a chael eu hysbrydoli.

“Roedd hi’n wych gweld y criw yn dod i ddeall bod yr holl gyfleoedd hyn yn eu milltir
sgwâr – hynny yw, bod modd llwyddo i gael gyrfa lewyrchus o fewn amaeth a’r
cyfryngau a dal i fyw yng nghefn gwlad Cymru. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn
amlwg yn bwysig iawn i’r criw cyfan.”

Roedd cael Meinir Howells, enillydd gwobr Ffermwraig y Flwyddyn yng Nghymru, fel
hwylusydd i’r penwythnos yn ddewis amlwg. Mae’n unigolyn a oedd yn gallu rhoi
ysbrydoliaeth a chyngor i’r criw ifanc, yn enwedig i’r rhai oedd yn dyheu am ddilyn yn
ei hôl troed hi o gyflwyno ym myd amaeth.

Dywedodd Meinir: “Roedd hi’n braf cael y cyfle i feithrin talentau newydd ac addysgu
pobl sydd ag angerdd a diddordeb mewn bod yn rhan o’r cyfryngau neu sydd am
yrfa yn ymwneud ag amaeth a bwyd y tu hwnt i glos y fferm.”

Cynhaliwyd y penwythnos ar fferm Meinir Howells, Shadog – ac am leoliad godidog i
gynnal sefyllfaoedd realistig a sesiynau ymarferol ar fferm weithredol, lwyddiannus!
Cafwyd siaradwyr gwadd adnabyddus o’r sector yn ymweld â’r fferm ar y diwrnod
olaf i gynorthwyo’r unigolion a chyfrannu at raglen broffesiynol yn sôn am yr heriau
sy’n wynebu’r sector amaeth. Ffrwyth llafur y penwythnos fydd ffilm fer wedi’i ffilmio,
ei chyfarwyddo a’i sgriptio o’r dechrau i’r diwedd gan yr unigolion ifanc!
Bydd y cofnod hwn o’r hyn a gyflawnwyd dros y deuddydd yn cael ei rannu gyda’r
unigolion. Y gobaith yw y bydd yr adnodd yn eu galluogi nhw i ragori mewn
cyfweliadau a’u caniatáu i wneud ceisiadau hyderus am gyfleoedd llawrydd yn y
dyfodol.

Dywedodd Gwenno Roberts, un o’r rhai a gymerodd ran sy’n wreiddiol o Sir Gâr ond
sydd bellach yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei bod hi wedi
mwynhau’r profiad: “Roedd cael profiad go iawn o ffilmio, cyflwyno a chyfweld yn
hynod fuddiol, a dwi’n bwriadu cwblhau mwy o brofiad gwaith a chyrsiau tebyg yn y
maes drwy ddefnyddio’r cysylltiadau dwi wedi’u ffurfio yn sgil y penwythnos hwn.”
Ychwanegodd Awen Davies, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ei bod hi wedi
cofrestru ar gyfer y cwrs oherwydd bod yr amser wedi dod iddi ddewis pynciau a’i
bod hi’n gobeithio y byddai’r penwythnos yn help iddi benderfynu pa drywydd i’w
ddilyn. “Fe wnes i fwynhau’r hyfforddiant sgriptio ac mae’r penwythnos wedi dangos i
mi sut fyddai modd i mi gyfuno dau beth sy’n agos at fy nghalon, sef cyfathrebu yn y
Gymraeg ac amaeth.”

Wrth glou, ychwanegodd Alaw: “Roedd hi’n braf gweld yr unigolion ifanc yn
mwynhau dysgu. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu brwdfrydedd a dwi’n mawr obeithio
bod y penwythnos wedi bod yn agoriad llygad iddyn nhw weld yr hyn sy’n bosib ar ei
stepen drws.”

Byddwch yn barod, Geredigion … mae’r cyflwynwyr teledu nesaf ar eu ffordd!
I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i:
llwyddonlleol2050.cymru