Yn ddiweddar cynhaliwyd cwrs cyntaf Undeb Rygbi Cymru drwy gefnogaeth Cronfa Her ARFOR!

Cafwyd noson lwyddiannus iawn yng Nghlwb Rygbi Y Bala yn trafod y menopos yng nghwmni Fiona Dolben. Dyma’r cwrs cyntaf allan o 24 bydd yn cael eu cynnal gyda’r nod o gryfhau’r clybiau rygbi yn ardaloedd ARFOR, gan drafod pynciau fel y menopos, llywodraethant glybiau, ac i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg!

Gwyliwch y fideo i gael blas o’r noson: