Mae ‘un cam yn arwain at y llall’ medd entrepreneur ifanc o Sir Gâr sydd yn agor
siop ddillad vintage ar Stryd y Plas, Caernarfon wythnos yma.
Ar ôl manteisio ar y profiad o fod yn rhan o’r Elfen Mentro gyda phrosiect Llwyddo’n
Lleol, mae Dylan Glyn, sydd yn 24 oed ac yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, Sir Gâr
wedi ennyn yr hyder i fentro i fyd busnes ac agor ei siop gyntaf, Cymro Vintage.
Fe ddechreuodd Dylan y busnes yn araf bach drwy werthu dillad dros wefannau
megis Depop ac Instagram, ond mi oedd yn awyddus i gryfhau ei sgiliau a datblygu’r
busnes. Felly ym mis Hydref 2023 mi ymgeisiodd Dylan i fod yn rhan o’r elfen Mentro
gyda phrosiect Llwyddo’n Lleol.
Drwy gefnogaeth elfen Mentro Llwyddo’n Lleol, fe gafodd Dylan y cyfle i fynychu 10
sesiwn wythnosol gydag arbenigwyr busnes a chyfle i ennill cefnogaeth ariannol i
symud ei fusnes yn ei flaen.
Ers hynny, mae Dylan hefyd wedi buddio o gefnogaeth Hwb Menter, cynllun sy’n
cefnogi busnesau canol tref yng Ngwynedd a Môn.
Mae Dylan yn awr yn cymryd y cam nesaf, ac yn rhoi’r hyn mae o wedi’i ddysgu ar
waith, drwy agor ei siop gyntaf.
Dywedodd Dylan: “Dwi’n gyffrous iawn i fod yn gwireddu fy mreuddwyd o agor siop!
“Mae Llwyddo’n Lleol wedi bod yn andros o help i mi, mae’r prosiect wedi
cynorthwyo fi i gael yr hyder oeddwn ei angen i fynd ati i roi pob ymdrech i mewn i
ddatblygu’r busnes.
“Mae’r profiad hefyd wedi rhoi’r hunan sicrwydd i mi y medrai gwneud un rhywbeth
efo’r busnes, hyd yn oed ar ôl i bobl eraill awgrymu na fedra’i wneud.
“Roedd bod o gwmpas pobl oedd yn credu ynddoch chi ac efo’r un meddylfryd, wir
yn hwb i ni gyd fel entrepreneuriaid ifanc.”
Er bod Dylan yn hanu o Sir Gâr, ar ôl mynychu’r brifysgol ym Mangor fe
ymgartrefodd yng Nghaernarfon ac mae’n edrych ymlaen yn arw at gael rhedeg
busnes yn y dref.
Ychwanegodd Dylan: “Ar ôl astudio ym Mangor am bedair blynedd, mi wnes i
gwympo mewn cariad efo’r ardal a symud i fyw yng Nghaernarfon.
“Dyma un o’r penderfyniadau gorau i mi wneud erioed gan fy mod wrth fy modd yn
byw mewn ardal mor hardd a Chymreig efo gymaint o bobl glên o gwmpas.”
Dywedodd Aled, swyddog yr elfen Mentro Llwyddo’n Lleol: “Rydym yn falch iawn fod
Dylan wedi elwa o fod yn rhan o elfen Mentro, prosiect Llwyddo’n Lleol, a bod y
sesiynau hyfforddi wedi galluogi Dylan i wireddu ei freuddwyd.
“Rydym fel prosiect yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn y datblygiad cyffrous
yma.
“Mae Dylan wedi gweithio’n ddiwyd er mwyn datblygu ei fusnes ac mae e’n enghraifft
dda o’r math o unigolion mentrus y mae Llwyddo’n Lleol yn falch iawn o’u cefnogi
drwy’r elfen Mentro.
“Un o brif amcanion Llwyddo’n Lleol yw cefnogi unigolion ifanc ARFOR i lwyddo o
fewn ei milltir sgwâr.
“Rydym yn falch ein bod yn medru arfogi pobl ifanc gyda sgiliau a phrofiadau a fydd
yn gymorth iddynt wrth fynd ati i ddatblygu syniadau busnes.
“Mae gweld hynny’n cael ei wireddu mewn enghreifftiau megis Dylan a’i fusnes,
Cymro Vintage, yn wych. Dymunwn bob hwyl iddo wrth iddo gychwyn ar y bennod
newydd cyffrous hon.”
Mae Dylan yn awyddus i gymryd camau ychwanegol hefyd er mwyn parhau i
ddatblygu Cymro Vintage.
Dywedodd Dylan: “Dwi’n gobeithio gweld y siop yn mynd o nerth i nerth yng
Nghaernarfon a’r gobaith yn y dyfodol yw medru cyflogi staff i weithio efo mi er mwyn
i mi fedru mynd o gwmpas digwyddiadau a chynnal ‘siopau pop-yp’ mewn ystod
eang o lefydd.
“Hoffwn ddiolch i Llwyddo’n Lleol a’r Hwb Menter am eu holl gymorth dros y misoedd
diwetha’ wrth i Cymro Vintage ddatblygu!”
I gael cip olwg ar gynnyrch unigryw Cymro Vintage, ewch draw i’w tudalen Facebook
ac Instagram.
Gellir ymweld â siop newydd Cymro Vintage ar Stryd y Plas, Caernarfon.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i:
llwyddonlleol2050.cymru