Elfen Mentro 2024

Ydych chi eisiau dechrau neu ddatblygu busnes newydd?
Mae gan Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle ARBENNIG i 12 person ymuno â’n rhaglen hyfforddiant busnes.
Fel rhan o’r rhaglen bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr
busnes yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid.
Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1,000 i
ddatblygu ei syniad busnes.
Mae’r rhaglen hyfforddiant hon ar agor i geisiadau o bob ardal yn rhanbarth ARFOR. Cynhelir y
rhaglen drwy gyfuniad o sesiynau rhithiol a sesiynau wyneb i wyneb.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Dyddiad Cau: 21/01/24