Byddwn yn cynnal sgwrs banel ar stondin Menter Môn (96-98) am 2yp ddydd Mawrth, ble fydd criw o bobl ifanc yn trafod y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yng Ngwynedd a Môn, ynghyd â’u profiadau o ddatblygu gyrfa a sicrhau dyfodol llwyddiannus o fewn eu cymunedau.
Daw aelodau’r panel o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys y sectorau creadigol, technolegol ac ynni. O ganlyniad, bydd y drafodaeth yn cynnig cipolwg diddorol ar wahanol lwybrau gyrfa, y cyfleoedd a gawsant ar hyd eu taith, a realiti datblygu gyrfa o fewn economi wledig Gymraeg.
Bwriad y sesiwn yw herio’r canfyddiad bod angen gadael yr ardal er mwyn llwyddo, a thynnu sylw at y potensial sylweddol sy’n bodoli’n lleol. Bydd hefyd yn gyfle i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael drwy Elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol i fusnesau a phobl ifanc lleol.
Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni, a bydd yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio’n anffurfiol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol.