Blog Non: ‘Fy mhrofiad fel Intern Cysylltiadau Cyhoeddus, Cyfathrebu a’r Iaith Gymraeg yn Ateb’
Erin Non Fôn Davies
Daw Non o Benrhosgarnedd, ac mae hi newydd gwblhau MA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Trwy’r Elfen Gyrfaol, mae hi wedi cael y cyfle i weithio fel intern yn Ateb dros yr haf.
Mae fy mhrofiad fel intern yn Ateb wedi bod yn gyfle arbennig i mi, ac yn brofiad y byddaf yn ei gofio am amser hir. Cyn dechrau’r interniaeth, roeddwn ar fin gorffen fy MA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Er bod y cwrs wedi bod yn wych ac wedi rhoi sylfaen i mi allu gweithio yn y diwydiant, roeddwn yn awyddus i gael mwy o brofiad ymarferol ym maes cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu a’r iaith Gymraeg. Yn sicr, mae’r cyfle hwn wedi caniatáu i mi wneud hynny mewn amgylchedd Cymraeg a phroffesiynol.
Yn ystod y cyfnod, dwi wedi cael cyfle i fod yn rhan o amrywiaeth o dasgau a phrosiectau (gan gynnwys ambell i ddiwydiant nad oeddwn wedi hyd yn oed meddwl y byddai angen gwaith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus ar ei gyfer!). Roedd hyn yn cynnwys gwaith ysgrifennu datganiadau i’r wasg, creu cynnwys a chynllunio digwyddiadau, gan ddangos sut mae cwmni cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu yn gweithio o ddydd i ddydd. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn cael gweld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni a chael profiad o’r sector mewn ffordd ymarferol, gan weithio gyda chleientiaid lleol a chenedlaethol.
Un o’r pethau dwi wedi’i werthfawrogi fwyaf yw’r cyfle i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn fy ardal leol, gan weld pa mor bwysig yw cyfathrebu dwyieithog o fewn y byd proffesiynol. Mae’r interniaeth wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fy hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd gwaith, yn ogystal â mewn diwydiant ble mae’r Saesneg yn aml yn dominyddu. Dwi hefyd wedi dysgu sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol iawn i mi yn y dyfodol, a dwi wedi mwynhau gallu sgwrsio gyda fy nheulu a’m ffrindiau am yr hyn dwi wedi’i ddatblygu.
Heb os, mae’r interniaeth hefyd wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol. Dwi wedi dysgu mwy am fy nghryfderau, yr hyn sydd angen ei ddatblygu, ac wedi magu hyder ac wedi cael gwell syniad o’r math o bynciau neu feysydd yr hoffwn eu dilyn. Mae cael y cyfle i ddysgu gan bobl sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant wedi bod yn hynod werthfawr, a dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a chyngor dwi wedi’i gael gan Llinos, Rhys, Erin, Marged a Callum.
Ni fyddai’r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb Elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol a Menter Môn. Mae’r gefnogaeth hon wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn interniaeth a rhoi fy hun mewn sefyllfa i ennill profiad gwerthfawr, datblygu siliau newydd a chreu cysylltiadau fydd o fudd yn y dyfodol.
Dwi’n hynod ddiolchgar i Ateb, Llwyddo’n Lleol a Menter Môn am y cyfle. Mae profiadau fel hyn yn dangos pa mor werthfawr yw cael y cyfle i gamu i mewn i’r byd gwaith, rhoi cynnig ar bethau newydd a dysgu wrth fynd. Dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio popeth dwi wedi’i ddysgu yn Ateb wrth i mi barhau i ddatblygu fy ngyrfa.