FFENEST YMGEISIO AR AGOR- EWCH AMDANI!
Dyddiad cau: 20/07
Cyfle cyffrous i gyflogwyr a phobl ifanc Gwynedd a Môn!
Mae’r Elfen Gyrfaol yn fuddsoddiad mewn talent leol; mae’n cefnogi cyflogwyr lleol i ddatblygu’r gweithlu drwy gynnig cyfleoedd gwaith a phrofiadau gwerthfawr i bobl ifanc dan 35 oed.
Bydd unigolion hefyd yn cael cyfle i fwynhau gweithgareddau amrywiol fel rhan o’r cynllun, megis gweithdai datblygu sgiliau a gweithgareddau cymdeithasol.
Yn ogystal, bydd cefnogaeth ymarferol yn cael ei gynnig i’r cyflogwyr er mwyn eu cefnogi i ddeall disgwyliadau pobl ifanc yn y gweithle a phontio bwlch sgiliau hanfodol.
Os hoffai eich busnes wybod mwy am y cymorth sydd ar gael, ac yn awyddus i elwa o’r cynllun hwn, darllenwch y canllawiau ac ymgeisiwch heddiw!
Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs bellach cyn cyflwyno cais hefyd.
Neu, os wyt ti’n berson ifanc â chysylltiad i Wynedd neu Ynys Môn ac yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, darllena’r canllawiau ac ymgeisia isod.
Mae croeso i ti gysylltu am sgwrs bellach cyn cyflwyno cais hefyd.
Llwyddiannau blaenorol
Astudiaethau Achos
Dyma flas o beth mae’r elfen Gyrfaol yn ei gynnig …

