Academi Gwaith a Iaith –
M-SParc
Mae’r prosiect yma’n ymateb i’r hên stori ‘does dim cyfleoedd yng Ngogledd Cymru’ drwy gynorthwyo pobl leol i gael mynediad at waith o safon uchel, cyflogwyr i gael mynediad at staff sy’n barod i fyd gwaith, ac yn fwy na dim, i helpu hyn i gyd ddigwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers y pandemig, nid pawb sy’n gweithio mewn swyddfa. Mae llawer dal i weithio o adref, ac er fod hyn yn gallu bod yn hwylus, gall arwain at unigrwydd ac i ddysgwyr, mae’n golygu llai o gyfle i ddefnyddio’r iaith Gymraeg o ddydd-i-ddydd.
O safbwynt cwmnïau, mae llawer yn adrodd bod recriwtio staff yn anoddach o hyd, ac mae’r bwlch sgiliau yn amlygu ei hun yn fwy a mwy wrth i bobl ifanc symud i ffwrdd, lle maent yn credu fod gwell cyfleoedd. Mae’r cynllun yma felly yn galluogi pobl i gael gwaith, i ddysgu neu wella eu Cymraeg, i fusnesau gael cymorth ariannol tra’n cyflogi, ac i greu gofodau ble mae hyn i gyd yn dod at ei gilydd.