Wyt ti’n mwynhau gweithgareddau awyr agored?
Mae gan ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 gyfle arbennig i unigolion sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored i ymuno â diwrnod cyffrous o weithgareddau, sgyrsiau a rhwydweithio!
Bydd y diwrnod hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y diwydiant awyr agored yn ardal ARFOR, yn ogystal â chyfle i glywed gan arbenigwyr yn y maes. Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i gyfarfod â phobl ifanc sydd â diddordeb tebyg yn yr awyr agored ac i roi cynnig ar weithgaredd dŵr, wrth badl-fyrddio ar Llyn Padarn, Llanberis.
Beth yw’r cyfle?
- Diwrnod o hwyl a sgyrsiau diddorol!
- Cyfle unigryw i glywed gan siaradwyr gwadd profiadol, ac i dderbyn cyngor gan arbenigwyr!
- Cyfle i roi cynnig ar badl-fyrddio ar Llyn Padarn, Llanberis yng ngofal arbenigwr.
- Cyfle gwych i gyfarfod ag unigolion eraill sydd â diddordeb tebyg yn yr awyr agored!
- Cyfle i rannu syniadau, ac i roi barn ar y pynciau sydd o bwys i ti!
