Clybiau Mentrus

Mentro Ceredigion: Clybiau Mentrus

Mae Clybiau Rygbi Ceredigion wedi’u hadnabod fel cadarnleoedd i’r iaith, drwy gynllun Clybiau Mentrus. Mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig cefnogaeth i’r clybiau hyn drwy hyrwyddo eu gofodau a’u gweithgareddau Cymraeg. Bwriad y cynllun yw hybu ac annog y clybiau i fod yn fentrus ac i greu mwy o fwrlwm yn lleol drwy gyfres o ddigwyddiadau newydd, diddorol. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i’r gymuned ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’r defnydd ohoni, gan herio hefyd yr ystrydeb nad oes gweithgareddau cymdeithasol yn digwydd yma.