Blog – Profiad o fod yn rhan o elfen Mentro Llwyddo’n Lleol …

PWY WYT TI?

Gethin ydw i, a dwi’n rhedeg y busnes NODAU ar y cyd â’m partner, Elin. Rydyn ni’n byw bellach yn ardal Dyffryn Nantlle gyda Celt a Smwt, ein dau gi. Mae’r busnes yn un newydd sbon ac roedden ni’n ofnadwy o ffodus o gael bod yn rhan o elfen Mentro Llwyddo’n Lleol yn 2024.

PAM WNEST TI BENDERFYNU SEFYDLU NODAU PIANO? O LLE DDAETH Y SYNIAD?

Dwi wrth fy modd yn canu’r piano; mae’n un o’m prif ddiddordebau ac yn rhywbeth dwi wir yn mwynhau ei wneud. Roeddwn i’n ddigon ffodus o allu prynu piano trydan yn ddiweddar, a hyn yn unig er mwyn cynyddu fy niddordeb a datblygu fy sgiliau yn y broses. Oherwydd fy niddordeb, roedd fy nheulu a’m ffrindiau yn gwybod fy mod i’n un am ganu’r piano (mae’r rhan fwyaf wedi gorfod fy nioddef yn chwilio am biano ar noson allan tra bo’r cwrw’n llifo!). O ganlyniad i hyn, roeddwn i’n lwcus o gael rhai aelodau o’m teulu a’m ffrindiau agosaf yn gofyn i mi a fyddwn i’n fodlon canu’r piano yn eu priodasau. Roedd hyn yn sioc i ddechrau, ac roeddwn i’n ofnadwy o nerfus wrth feddwl beth os gwna i gamgymeriad, neu beth os gwna i anghofio’r gân? Wnaeth hynny ddim digwydd, diolch byth! Drwy gael bod yn rhan o’u dathliadau arbennig nhw, fe sylweddolais fy mod i wir wedi mwynhau’r profiad. Wedi hyn, fe wnaeth Elin, fy mhartner (a phartner busnes), a’m teulu a ffrindiau ddechrau awgrymu y dylwn feddwl am wneud hyn fel busnes ar yr ochr i’m gwaith amser llawn. Roedd hyn yn drafodaeth gyson rhyngof i ac Elin, ac yn rhywbeth roedden ni wedi bod yn meddwl amdano ers sbel. Fe soniodd Elin un tro, pan oedden ni ar y soffa’n gwylio rhyw ffilm, mae’n siŵr, ei bod hi wedi gweld rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn sôn am gymorth i fusnesau Cymraeg yn ardal ARFOR. Roedd yr hysbyseb yn dweud nad oedd angen i’r busnes fod yn un oedd yn bodoli ar y pryd, ond ei fod yn gyfle i unigolion gael cymorth i ddechrau busnes newydd neu i ddatblygu eu busnes. Roedd hyn yn “music to her ears”, fel maen nhw’n ei ddweud. Roedd rhaid cwblhau ffurflen gais o ryw fath, ac fe aeth Elin ati i drio fy helpu gyda hyn, ac o’r fan honno, fe gawson ni wybod yn fuan wedyn ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus.

Doedd hi ddim yn broses mor hawdd wedi hynny, wrth i ni bendroni am amser hir o ran beth i alw’r busnes. Roedd yna lot o fynd yn ôl ac ymlaen, gofyn am sylwadau, syniadau ac yn y blaen. Rydyn ni’n ddigon ffodus o gael teulu a ffrindiau caredig (a chlyfar) iawn, ac fe soniodd un ffrind, beth am NODAU? Mae’n syml, perthnasol ac unigryw (‘shout out’ i Mared – diolch!!). A dyna ni, dyna ddechrau ar ein busnes NODAU, sef gwasanaethau pianydd ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig, megis priodasau – sy’n un enghraifft yn unig.

OES GEN TI UN ‘TOP TIP’ I RYWUN SYDD EISIAU DECHRAU BUSNES?

Www! Mae’n anodd meddwl am un ‘top tip’ yn unig o ran dechrau busnes! Fel rhan o’r elfen Mentro, roedden ni i gyd yn mynychu sesiynau wythnosol gyda gweddill y grŵp a’r trefnwyr, a bob wythnos, roedd siaradwyr gwadd gwahanol yn bresennol ac yn rhoi cyflwyniad ar eu busnes hwythau a gwahanol gyngor i ni.

Roedd hyn yn agwedd ffantastig ar yr elfen Mentro wrth i ni gael ystod eang o wahanol ‘top tips’ gan amrywiaeth o unigolion oedd yn rhedeg busnesau llwyddiannus. Wrth edrych yn ôl a meddwl beth wnaeth ein helpu ni, dwi’n meddwl beth sydd angen ei wneud ar y dechrau yw sicrhau bod gennych chi amcanion clir – hynny yw, beth yn union yw eich syniad busnes, a beth yw prif bwrpas y busnes. Drwy sicrhau bod yr amcanion yn glir, fe wnaiff hynny eich helpu i fynd ymlaen gyda’ch busnes yn effeithiol a llwyddiannus. Un bach arall hefyd (sori, dau ‘top tip’) yw peidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun. Mae bywyd yn brysur ac mae ceisio dechrau busnes wrth weithio’n llawnamser yn her ynddi’i hun, felly peidiwch â phoeni os bydd yn cymryd ychydig o amser i chi fynd amdani. Rydyn ni’n parhau i ddatblygu’n ara’ deg. Rydyn ni bellach yn ceisio sicrhau ein bod ni’n rhoi amser penodol bob wythnos i ganolbwyntio ar y busnes, er mwyn gallu mwynhau’r broses o ddechrau ein busnes ein hunain a cheisio ei wneud yn un llwyddiannus.

BETH OEDD DY HOFF BETH O FOD YN RHAN O ELFEN MENTRO LLWYDDO’N LLEOL?

Waw, mae’r cwestiynau yma’n mynd yn anoddach wrth i ni fynd ymlaen! Roedd bod yn rhan o elfen Mentro Llwyddo’n Lleol yn brofiad anhygoel i ni, yn enwedig wrth ystyried mai busnes newydd iawn yw NODAU. Roedd y sesiynau wythnosol yn gyfle i ni allu datblygu ein busnes ymhellach, gan roi’r cyfle i ni hefyd feithrin ein hyder yn y maes. Rhaid cyfaddef, roedd gwrando ar y siaradwyr gwadd yn brofiad gwerth chweil, ac yn wir yn un o’r rhesymau pam ein bod ni wedi parhau â’n busnes, dwi’n meddwl. Roedd gweld Cymry eraill yn llwyddo yn eu meysydd hwythau yn brofiad gwych ynddo’i hun, ond yn fwy byth, roedd cael y cyfle i wrando, cael cymorth, a’u holi nhw am eu profiadau hwythau yn allweddol yn ein siwrnai ni fel perchnogion busnes. Yn ychwanegol i hyn, roedden ni mor, MOR lwcus o weddill y criw oedd yn gwmni i ni ar yr elfen Mentro. Roedd amrywiaeth eang o wahanol fusnesau ac roedd pawb yn gefn i’w gilydd – ac roedd hynny’n mynd yn bell iawn. Mae’n wych cael cadw mewn cysylltiad â’r holl fusnesau a gweld pa mor wych mae pawb yn ei wneud ers i’r elfen Mentro ddod i ben.

 

A FYDDET TI’N AWGRYMU I BOBL ERAILL YMGEISIO AM GYFLEOEDD LLWYDDO’N LLEOL?

100%!!!! Fel y dywedais ynghynt, dwi ac Elin yn teimlo mor ffodus ein bod ni wedi cael ein dewis i fod yn rhan o garfan elfen Mentro fwyaf diweddar Llwyddo’n Lleol. Syniad yn unig oedd NODAU pan wnaethon ni ymgeisio am y cyfle; doedd gynnon ni ddim enw i’r syniad ar y pryd, hyd yn oed! Cael gwybod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus oedd yr union gymhelliant roedden ni ei angen i fynd amdani efo’r syniad busnes, ac roedd y cymorth a gawson ni gan bawb yn Llwyddo’n Lleol a’r siaradwyr gwadd mor werthfawr. Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau gwerthfawr, ac mae’r cymorth y mae pawb yn ei roi i’w gilydd yn brofiad gwerthfawr. Fe roddodd y cyfle hwn yr hyder i ni wir fynd amdani, ac fe fyddwn ni’n ddiolchgar am byth. Diolch yn fawr, Llwyddo’n Lleol!!

O.N – Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol – @nodau_piano ar Instagram ac @Nodau ar Facebook. Gwefan i ddod yn fuan!