Arloesi Mewn Amaeth

Mentro Ceredigion: Arloesi Mewn Amaeth

Dyma benwythnos wnaeth gynnig deuddydd llawn profiadau ym myd y cyfryngau. Roedd yr hyfforddiant yn amrywio o sgriptio a ffilmio i gyflwyno a golygu cynnwys – a’r cyfan yn canolbwyntio ar ddarlledu o fyd amaeth. Dewiswyd naw unigolyn brwd i fod yn rhan o’r penwythnos, gyda’r gobaith o danio’u huchelgais a’u hangerdd i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y sector yn y dyfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr unigolion isod!

Dyma flas o'r penwythnos Arloesi mewn Amaeth ...

Yr unigolion mentrus oedd yn rhan o'r rhaglen Arloesi Mewn Amaeth oedd …

Elen Beynon

Cliciwch yma
“Mae gen i gefndir amaethyddol, a diddordeb hefyd mewn gwahanol gyfryngau. Cefais brofiad gwaith gydag Atebol drwy elfen Gyrfaol Llwyddo’n Lleol.”

Owain Swinden

Cliciwch yma
“Dwi eisiau ehangu fy mhrofiad o fyd amaeth a bydd yn gyfle arbennig i gael cwrdd a siarad â phobol newydd sydd â diddordeb mewn amaethyddiaeth. Bydd yn gyfle gwych cyn i fi ddechrau cwrs mewn coleg amaethyddol hefyd.”

Gwenno Roberts

Cliciwch yma
“Fel merch fferm sy'n dod yn wreiddiol o gymuned wledig, mae gen i ddiddordeb mawr yn y cyfle hwn. Mae'r cyfle’n cyfuno fy niddordeb mewn amaeth a'r cyfryngau.”

Rhodri Jenkins

Cliciwch yma
“Hoffwn ddatblygu sgiliau yn y cyfryngau, gan fy mod i’n meddwl dilyn cwrs o’r fath yn y brifysgol wedi i mi orffen yn y chweched dosbarth, a dwi’n gobeithio cael gyrfa yn y maes yn y dyfodol. Dwi wedi dewis ‘y cyfryngau’ yn un o’m pynciau yn y chweched.”

Cari Davies

Cliciwch yma
“Taswn i’n ddigon ffodus i gael lle ar y penwythnos hwn a gweithio gydag arbenigwyr ym myd y cyfryngau a byd amaeth, credaf y bydd hyn yn ehangu fy nealltwriaeth o’r sector hwn ymhellach.”

Awen Davies

Cliciwch yma
“Bydd y cwrs yn dangos sut byddai modd i mi gyfuno dau beth sy’n agos at fy nghalon, sef cyfathrebu yn y Gymraeg ac amaeth. Rwy'n hoffi ysgrifennu ac mi fydd gweld sut mae mynd ati i sgriptio rhaglenni amaeth yn brofiad diddorol iawn.”

Sara Davies

Cliciwch yma
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn amaethyddiaeth a dwi’n credu y bydd hyn yn rhoi cyfle i mi gael mwy o ddealltwriaeth o’r sector amaeth. Bydd yn fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith yn y sector amaeth ac yn rhoi mwy o syniad i mi o beth sydd allan yna i ni amaethwyr.”

Megan Lloyd

Cliciwch yma
“Dwi’n ferch fferm sydd â diddordeb brwd mewn amaeth a hoffwn weithio o fewn y diwydiant. Ond hoffwn hefyd weld a oes cyfleoedd ar gael i mi heblaw gweithio gartref ar y fferm. Byddai cael y cyfle hwn a dysgu gan Meinir a Gary Howells yn grêt.”

Elan Evans

Cliciwch yma
“Byddaf wrth fy modd yn datblygu sgiliau’r cyfryngau ym myd amaeth. Bydd hefyd yn help i mi pan fyddaf yn mynychu’r brifysgol i astudio amaeth.”

Dyma'r fideo cafodd ei greu gan yr unigolion mentrus yn ystod yr penwythnos ...