Barn y Bobl Mentro

Mae ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 eisiau eich help chi i benderfynu ar enillwyr gwobr Barn y Bobl rhaglen hyfforddi ddiweddaraf yr elfen Mentro!

PLEIDLAIS GYHOEDDUS! 

Bydd y ddau unigolyn sy’n cael y nifer uchaf o bleidleisiau’n cael cymorth ariannol gwerth £1000 tuag at ddatblygu eu syniad busnes.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae 26 entrepreneur ifanc o ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig er mwyn datblygu syniadau am fusnesau newydd i’r ardal.

Mae’r criw wedi bod yn mynychu sesiynau wythnosol yng nghwmni arbenigwyr, gan gael eu hyfforddi ar agweddau gwahanol ar ddatblygu syniad busnes. Mae’r unigolion mentrus hefyd wedi cael cymorth ariannol gwerth £1000 tuag at ddatblygu eu syniadau.

Pa syniad sy’n haeddu’r cymorth ariannol ychwanegol, yn eich barn chi?

Pleidleisia ar gyfer unigolyn o’r de yma ac unigolyn o’r gogledd yma. 

Darllenwch y manylion isod i ddod i adnabod y criw fymryn yn well, cyn bwrw eich pleidlais!

Sir Gâr a Ceredigion

Gwynedd ac Ynys Môn

Bleddyn Thomas

Bleddyn Thomas

Ceredigion

Yn ei amser hamdden, mae Bleddyn yn hyfforddi rygbi i dimau ieuenctid yn ei ardal leol. Bydd Off The Top yn frand dillad a fydd yn cynnig cynnyrch o safon, gyda dyluniadau wedi’u hysbrydoli gan rygbi. 

Dysgwch ragor am Off The Top, YMA.

Becky Adams

Becky Adams

Gwynedd

Mae Becky yn dechnegydd ewinedd sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau o dan faner ei busnes, Gloyw. Sefydlodd y busnes yn gynharach eleni, gan weithio o’i stiwdio gartref ym Mhen Llŷn.

Dysgwch ragor am Gloyw, YMA.

Catrin Medi Rees

Catrin Medi Rees

Ceredigion

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, mae Catrin wedi dychwelyd i Geredigion i weithio fel ffisiotherapydd i’r GIG. Ymunodd â Llwyddo’n Lleol er mwyn datblygu ei sgiliau busnes, gyda’r nod o sefydlu menter yn y dyfodol.

Dysgwch ragor am Catrin, YMA.

Dion Wyn

Dion Wyn

Gwynedd

Ymunodd Dion â Llwyddo’n Lleol i ddatblygu ei syniad am frand dillad newydd sbon, sef Malwan. Bydd y brand yn arddangos dyluniadau unigryw, sy’n dathlu cymeriadau gogledd Cymru. 

Dysgwch ragor am y brand dillad, Malwan, YMA.

Catrina Jones

Catrina Jones

Mae Catrina’n rhedeg AC Apex Tutoring gyda’i phartner busnes, Ann. Mae’r ddwy’n athrawon profiadol, a chyda chefnogaeth tîm o wahanol athrawon, mae’r busnes yn cynnig gwasanaethau tiwtora i ddisgyblion TGAU a Lefel A mewn amrywiaeth o bynciau.

Dysgwch ragor am AC Apex Tutoring, YMA.

Dylan Evans

Dylan Evans

Gwynedd

O dan faner ei fusnes newydd, Rhagfur, mae Dylan yn awyddus i gynnig gwasanaeth dwyieithog a fydd yn cefnogi busnesau a sefydliadau i gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.

Cymerwch gip ar fusnes newydd Dylan, YMA.

Dafydd Syfydrin

Dafydd Syfydrin

Ceredigion

Ymunodd Dafydd ag elfen Mentro Llwyddo’n Lleol i ddatblygu sgiliau busnes newydd, gyda’r bwriad o ddatblygu busnes tirlunio newydd sbon yng Ngheredigion.

Elis Jones

Elis Jones

Gwynedd

Mae Elis yn awyddus i gymhwyso fel arweinydd teithiau mynydd, er mwyn cynnig teithiau tywys o amgylch Eryri, gan ddathlu harddwch a hanes yr ardal.

Dysgwch ragor am Elis, YMA.

Elan Davies

Elan Davies

Mae Elan yn rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am y busnes, Jengyd. Mae Jengyd yn cynnig gweithgareddau ystafelloedd dianc (escape rooms) hwyliog trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny yng ngorllewin Cymru.

Dysgwch ragor am Jengyd, YMA.

Ffion Emyr

Ffion Emyr

Gwynedd

Ar ôl mwynhau’r profiad o adnewyddu ei thŷ, mae Ffion yn awyddus i ddatblygu busnes newydd sbon a fydd yn cynnig ei gwasanaeth fel cynllunydd tai (interior designer) yng Ngwynedd.

Dysgwch ragor am Ffion, YMA.

Esyllt Griffiths

Esyllt Griffiths

Ceredigion

Mae Esyllt yn gogyddes ddawnus, sy’n creu a gwerthu cacennau blasus yng Ngheredigion. Ymunodd â Llwyddo’n Lleol er mwyn datblygu ei menter, Cacs Es, sy’n paratoi cynnyrch ffres o safon uchel!

Dysgwch ragor am fusnes Esyllt, YMA.

Glesni Owen

Glesni Owen

Gwynedd

Mae Glesni wedi mwynhau arlunio a chreu gweithiau celf ers yn ifanc, ac ymunodd â Llwyddo’n Lleol i ddatblygu ei busnes yn creu a gwerthu gweithiau celf.

Cymerwch gip ar waith Glesni, YMA.

Ffion Medi Rees

Ffion Medi Rees

Sir Gâr

O dan faner ei busnes, Sied yr Ardd, mae Ffion yn cynnig cynnyrch ac anrhegion amrywiol, gan gynnwys tusŵau blodau ar gyfer digwyddiadau neu achlysuron arbennig, yn ogystal â chynnal  gweithdai blodau.

Dysgwch ragor am Sied yr Ardd, YMA.

Gwenno Llwyd Till

Gwenno Llwyd Till

Gwynedd

Mae Gwenno’n ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau llawrydd, sy’n gweithio ar ystod eang o brosiectau. Mae ei phrosiect presennol, Archif, yn dathlu unigolion creadigol ei hardal leol, a gogledd Cymru.

Dysgwch ragor am waith Gwenno, YMA.

Gruffydd Lewis

Gruffydd Lewis

Ceredigion

Mae Gruff yn ffermwr ifanc o Geredigion, ac mae’n awyddus i ddatblygu busnes sy’n gwerthu cynnyrch organig a safonol y fferm, a hynny i gwsmeriaid yn ei filltir sgwâr.

Dysgwch ragor am Gruff, YMA.

Hannah Hughes

Hannah Hughes

Gwynedd

O dan faner ei busnes newydd, Amdani, mae Hannah yn bwriadu cynnal gweithgareddau ‘ysgol y goedwig’ i bobl ifanc yng Ngwynedd, gan gynnig sesiynau sy’n datblygu sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau byd natur pobl ifanc yr ardal.

Dysgwch ragor am Hannah, YMA.

Heddwyn Cunningham

Heddwyn Cunningham

Ceredigion

Ymunodd Heddwyn â Llwyddo’n Lleol i ddatblygu ei sgiliau busnes. Yn ogystal â rhedeg busnes yn gwerthu cynhyrchion wedi’u creu gan argraffydd 3D, mae’n awyddus i ddatblygu syniad busnes newydd yn cynnig gwaith ffotograffiaeth a ffilmio â drôn.

Dysgwch ragor am Heddwyn, YMA.

Jack Cain

Jack Cain

Gwynedd

Ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad yn ei ardal leol, mae Jack yn awyddus i ddatblygu syniad busnes a fydd yn cynnig gwasanaeth symudol yn glanhau ceir yng Ngwynedd, gan roi cyfleoedd am waith i bobl eraill hefyd.

Dysgwch ragor am Cain Detailing, YMA.

Megan Haf Davies

Megan Haf Davies

Sir Gâr

Mae Megan yn gantores dalentog ac, yn ogystal â pherfformio mewn digwyddiadau neu gyngherddau, mae’n cynnal sesiynau canu a gweithgareddau amrywiol gyda phlant a phobl ifanc yn Sir Gâr.

Cymerwch gip ar waith Megan, YMA.

Leonie Jones

Leonie Jones

Gwynedd

Mae Leonie’n awyddus i ddechrau grŵp i rieni a gwarchodwyr, ynghyd â’u babanod, yn ardal Trawsfynydd, gan sefydlu hwb ar eu cyfer hefyd.

Cymerwch gip ar Lliwiau Llewelyn, YMA.

Rachel Harries

Rachel Harries

Sir Gâr

Ymunodd Rachel â’r elfen Mentro i ddatblygu ei sgiliau marchnata a chryfhau ei sgiliau busnes. Yn ogystal â gweithio’n galed ar y fferm gartref, mae Rachel yn cynnig llety i ymwelwyr ger pentref Bethlehem yn Sir Gâr.

Cymerwch gip ar dÅ· fferm Llwyncelyn, YMA.

Robin McNaught

Robin McNaught

Gwynedd

Mae Robin yn hyfforddwr cŵn defaid profiadol, sy’n awyddus i ddatblygu busnes yn cynnig sesiynau hyfforddiant i gŵn defaid, ac i hyfforddwyr eraill hefyd.

Dysgwch ragor am waith Robin, YMA.

Sian Elin

Sian Elin

Ceredigion

Mae Sian yn awyddus i gynnig llety sy’n croesawu ymwelwyr i Geredigion, yn ogystal ag adnodd i gefnogi unigolion sy’n profi caledi.

Sally Jones

Sally Jones

Gwynedd

Ar ôl dychwelyd i Wynedd o Loegr, mae Sally wedi sefydlu busnes sy’n cynnal sesiynau ar gyfer rhieni a gwarchodwyr, ynghyd â’u babanod, yng Ngwynedd. Cynhaliodd Sally sesiwn gyntaf ei busnes, Gwdihŵ, ym mis Tachwedd, a bydd yn cynnal sesiynau eraill mewn sawl lleoliad ledled y sir.

Dysgwch fwy am Gwdihŵ, YMA.

Tomos Lewis

Tomos Lewis

Sir Gâr

O dan faner ei fusnes, Dail Pren, mae Tomos yn dylunio a chreu arwyddion a chrefftwaith pren, gan  gynnig gwasanaeth ysgythru trwy ddefnyddio peiriant laser.

Dysgwch ragor am Dail Pren, YMA.

Tomos Lloyd

Tomos Lloyd

Ceredigion

Mae Tomos yn ffotograffydd ifanc sy’n arbenigo mewn ralïau a rasys ceir. Mae’n mynychu digwyddiadau gwahanol y calendr rasio ledled Cymru a thu hwnt.

Cymerwch gip ar waith Tomos, YMA.